Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
Does dim angen y "fed" mewn dyddiad
Llinell 2:
Corff rhyng-lywodraethol o fewn y [[Cenhedloedd Unedig]] sy'n cynnwys 47 [[gwladwriaeth]] sy'n gyfrifol am gryfhau hyrwyddo ac amddiffyn [[hawliau dynol]] o gwmpas y byd yw '''Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig''' neu '''CHDCU''' ([[Saesneg]]: ''United Nations Human Rights Council'' neu '''UNHRC'''; [[Ffrangeg]]: ''Conseil des droits de l'homme des Nations Unies'' neu ''CDHNU''). Crewyd y Cyngor gan [[Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig]] ar 15 Mawrth 2006 gyda'r prif fwriad o ymchwilio i sefyllfaoedd lle torrir hawliau dynol a gwneud awgrymiadau i ddatrys y problemau.<ref>[http://www2.ohchr.org/english/bodies/hrcouncil/index.htm Gwefan CHDCU]</ref> Mae'n cwrdd yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]]. Navi Pillay yw'r Uwch Gomisiynydd Hawliau Dynol presennol.
 
Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd cyffredinol, mae CHDCU o bryd i'w gilydd yn cynnal sesiynau arbennig i drafod materion brys. Pwnc y 9fed Sesiwn Arbennig a agorwyd ar y 9fed o9 Ionawr 2009 oedd "''The grave violations of human rights in the Occupied Palestinian Territory including the recent aggression of the occupied Gaza Strip''",<ref>[http://www.unhchr.ch/huricane/huricane.nsf/view01/8E8BAE03D7CDF9E8C1257539006C5F6B?opendocument "The grave violations of human rights in the Occupied Palestinian Territory including the recent aggression of the occupied Gaza Strip"] CHDCU.</ref> i drafod y sefyllfa ddynol yn [[Llain Gaza]] a'r cyhuddiadau fod [[Israel]] yn euog o gyflawni [[trosedd rhyfel]] yn erbyn y [[Palesteiniaid]] yn ei [[Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008-presennol|ymosodiad ar y diriogaeth honno]].
 
==Cyfeiriadau==