Brwydr Ffrainc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Bundesarchiv Bild 101I-126-0347-09A, Paris, Deutsche Truppen am Arc de Triomphe.jpg|bawd|Milwyr Almaenig yn gorymdeithio heibio'r [[Arc de Triomphe]] wedi ildiad [[Paris]], 14 Mehefin 1940]]
Goresgyniad [[Ffrainc]], [[yr Iseldiroedd]], [[Gwlad Belg]], a [[Lwcsembwrg]] gan luoedd [[yr Almaen]] yn [[yr Ail Ryfel Byd]] oedd '''Brwydr Ffrainc'''. Dechreuodd ar [[10 Mai]] [[1940]] a daeth â therfyn i'r [[Rhyfel Ffug]]. Bu dwy brif ymgyrch i'r frwydr. Yn yr ymgyrch gyntaf, Achos Melyn (''Fall Gelb''), symudodd lluoedd yr Almaen trwy'r [[Ardennes]], i ynysu ac amgylchynu lluoedd [[Cynghreiriaid yr Ail Ryfel Byd|y Cynghreiriaid]] yng Ngwlad Belg. Yn ystod y brwydro, achubwyd [[Byddin Alldeithiol Brydeinig (yr Ail Ryfel Byd)|y Fyddin Alldeithiol Brydeinig]] (BEF) a nifer o filwyr Ffrengig o [[Brwydr Dunkirk|Dunkirk]] yn [[Ymgyrch Dynamo]].
 
Yn yr ail ymgyrch, Achos Coch (''Fall Rot''), o 5 Mehefin ymlaen, [[ystlysu (tacteg filwrol)|gorystlysodd]] lluoedd Almaenig [[Llinell Maginot]] a symudasant ymhell i mewn i diriogaeth Ffrainc. Gwnaed datganiad rhyfel gan [[yr Eidal]] yn erbyn Ffrainc ar 10 Mehefin a symudodd llywodraeth Ffrainc i ddinas [[Bordeaux]]. Meddiannwyd y brifddinas [[Paris]] ar 14 Mehefin. Tridiau'n ddiweddarach datganodd [[Philippe Pétain]] y byddai Ffrainc yn gofyn am gadoediad. Ar 22 Mehefin, arwyddodd Ffrainc a'r Almaen gadoediad, a ddaeth i rym ar 25 Mehefin. Roedd yr ymgyrch yn fuddugoliaeth hynod i [[Pwerau Axis yr Ail Ryfel Byd|Bwerau'r ''Axis'']].