Brwydr Mortimer's Cross: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 16:
|casualties2=Anhysbys
}}
Ymladdwyd '''Brwydr Mortimer's Cross''' ar [[2 Chwefror]], [[1461]] yn [[Wigmore, Swydd Henffordd|Wigmore]] (rhwng [[Henffordd]] a ger [[Llanllieni]], [[Swydd Henffordd]], yn ymyl [[Afon Lugg]]). Roedd yn un o gyfres o frwydrau rhwng pleidiau'r [[Lancastriaid]] a'r [[Iorciaid]] a elwir yn [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]].
 
Ar ôl marwolaeth Richard, 3ydd dug Efrog ym [[Brwydr Wakefield|Mrwydr Wakefield]] ddau fis ynghynt, arweinwyd yr Iorciaid gan ei fab deunaw mlwydd oed Edward, Iarll y Mers ([[Edward IV o Loegr]] yn ddiweddarach). Roedd yn ceisio rhwystro'r lluoedd Lancastraidd a godwyd yng [[Cymru|Nghymru]] gan [[Owain Tudur]] a'i fab [[Siasbar Tudur|Siasbar]] rhag ymuno â'r brif fyddin Lancastraidd. Roedd Edward wedi codi milwyr ar hyd [[y Mers]] ac roedd yn ogystal nifer o filwyr Cymreig o dde-ddwyrain Cymru ganddo, dan Syr [[William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)|Wiliam Herbert]] a'i gefnogwyr. Brwydr rhwng [[Cymry]] oedd hon i bob pwrpas, a hynny am feddiant [[coron Lloegr]].