Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 2 feit, blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
[[Delwedd:Personal arms of Llywelyn ap Gruffudd.svg|bawd|150px|Arfbais rhyfel Llywelyn ll]]
Ymladdwyd '''Brwydr Moel-y-don''' ar y[[6 6ed o DachweddTachwedd]] [[1282]] ar [[Afon Menai]] rhwng milwyr [[Edward I o Loegr]] a milwyr [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], er mwyn amddiffyn [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhag y Saeson. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]] rhwng [[Llan-faes]], [[Môn]] a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger [[Moel-y-don]] ei hun.
 
Yn ystod yr haf, 1282, goresgynwyd Môn gan rhan o fyddin Edward I a laniodd yno ar ôl hwylio o [[Rhuddlan|Ruddlan]]. Bwriad Edward oedd dwyn cynhaeaf yr ynys ac felly tynhau'r rhaff o gwmpas Gwynedd yn ei ymdrech i orchfygu'r Cymry. Aeth y Saeson ati i godi pont o bren dros Afon Menai yn ystod yr haf a dechrau'r hydref. Mae lleoliad y bont honno yn ansicr ac mae'n debyg mai pontŵn (sef [[pont]] o gychod wedi'u rhaffu wrth ei gilydd) oedd hi. Ni cheir cyfeiriadau at y frwydr fel 'Brwydr Moel-y-don' tan yr 16g. Mae Moel-y-don yn safle hen fferi a leolir nid nepell o [[Llanidan|Lanidan]]. Ond roedd pencadlys y Saeson yn ardal Llan-faes, tua 7 milltir i'r dwyrain, ac roedd y gwaith yn golygu symud deunydd trwm a gweithwyr. Buasai'r Saeson yn wynebu anawsterau mawr i ymladd eu ffordd trwy goedwigoedd tewfrig ar ôl glanio hefyd. Cynigir gan haneswyr diweddar fel [[J. Beverley Smith]] mai rhwng Llan-faes ac ardal Bangor y codwyd y bont mewn gwirionedd gyda'r bwriad o ymosod ar lys Llywelyn yn [[Abergwyngregyn]], dros [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]].
72,325

golygiad