Rhuddiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhyshuw1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'dde|bawd|200px|Rhuddiad a ''blue shift'' Mewn ffiseg neu seryddiaeth, mae rhuddiad yn digwydd pan mae [[ymbelydredd electro...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:40, 4 Awst 2009
Mewn ffiseg neu seryddiaeth, mae rhuddiad yn digwydd pan mae ymbelydredd electromagnetig- gan amlaf golau gweladwy sy'n cael ei adlewyrchu gan wrthrych yn symud tua'r ochor lai egnïol y sbectrwm, sef yr ochor goch oherwydd yr effaith doppler. Yn fwy cyffredin, mae rhuddiad yn cael ei ddiffinio fel cynnydd yn nhonfedd ymbelydredd electromagnetig i gymharu efo tonfedd y ffynhonnell. Mae'r cynnydd yma yn digwydd oherwydd y gostyngiad yn amledd yr ymbelydredd. I'r gwrthwyneb, mae gostyngiad yn y donfedd yn cael ei alw'n blue shift.
Mae gwyddonwyr yn gwybod bod y bydysawd yn ehangu oherwydd bod tonfeddau golau'r galaethau pell yn cynyddu, sy'n awgrymu bod nhw'n symud i ffwrdd ar buaneddau uchel iawn.