Cilgerran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Brwydr Cilgerran
Dim crynodeb golygu
Llinell 34:
Yn ymyl y dref ceir adfeilion [[Castell Cilgerran]], [[castell]] [[Saeson|Saesnig]] o'r [[13g]]. Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw [[afon Teifi]]. Credir mai [[castell mwnt a beili]] a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn [[1100]]. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r [[13g]].
 
Roedd [[Brwydr Cilgerran]] yn un o fuddugoliaethau mwya'r Cymry yn erbyn y Saeson, gan ddilyn yn agos at sodlau buddugoliaethau eraill yng [[Cymerau|Nghymerau]] ac yng [[Cydweli|Nghydweli]]. Roedd Llywelyn hefyd wedi cipio sawl castell yn ôl i ddwylo'r Cymry, gan gynnwys cestyll a threfi [[Talacharn]], [[Llansteffan]] ac [[Arberth]]. Disgrifir y frwydr mewn sawl cronicl o'r cyfnod, ceir cronicl llaw iawn gan ''Chronica Majora'' gan Matthew[[Mathew Paris]] yn ogystal â thestun-B yr ''Annales Cambriae''. Hyd yn ddiweddar, nid oedd trawsysgrifiad modern o'r gweithiau hyn ar gael, felly ni ddaeth pwysigrwydd y frwydr i'r amlwg tan yn ddiweddar (21c).
 
Yn wahanol i lawer o frwydrau'r cyfnod gwyddom union enwau arweinwyr y ddwy fyddin a'r union leoliad hefyd, i'r gogledd-orllewin o Gastell Cilgerran.