Y Cynghrair Hanseataidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: es:Liga Hanseática
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: es:Liga Hanseática; cosmetic changes
Llinell 3:
Cynghrair masnachol o ddinasoedd yng ngogledd [[yr Almaen]] a dinasoedd eraill o gwmpas [[y Môr Baltig]], [[yr Iseldiroedd]], [[Norwy]], [[Sweden]], [[Gwlad Pwyl]] ac eraill oedd y ''''Cynghrair Hanseataidd''' ([[Almaeneg]]: ''Hanse'').
 
Yn ail hanner y [[12fed ganrif]] a dechrau'r [[13eg ganrif]], datblygodd nifer o ddinasoedd masnachol pwysig yng ngogledd yr Almaen, megis [[Lübeck]], [[Rostock]], [[Wismar]], [[Stralsund]], [[Greifswald]], [[Stettin]], [[Gdansk|Danzig]] ac [[Elbing]]. Lübeck oedd y ddinas bwysicaf o fewn rhwydwaith o gysylltiadau masnachol, ac ystyrir fel rheol mai yma y dechreuodd y Cynghrair Hanseataidd. Ffurfiodd y ddinas gynghrair masnachol a [[Hamburg]] yn [[1241]]. Ceir y term ''Hansa'' mewn dogfen am y tro cyntaf yn [[1267]]. Tyfodd y cynghrair i gynnwys nifer fawr o ddinasoedd eraill. Sefydlwyd dinasoedd Almaenig eraill yn rhan ddwyreiniol y Môr Baltig, megis [[Danzig]] ([[Gdańsk]]), [[Elbing]] (Elblag), [[Toruń|Thorn]] (Toruń), [[Reval]] ([[Tallin]]), [[Riga]] a [[Dorpat]] ([[Tartu]]).
 
Dechreuodd grym y cynghrair edwino tua diwedd y [[15fed ganrif]], a pharhaodd i edwino gyda thŵf gwladwriaethau sofran yn Ewrop, darganfyddiad America a datblygiad grym morwrol [[yr Iseldiroedd]] a [[Lloegr]] yn y ganrif ddilynol.