Llangelynnin, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben [[Dyffryn Conwy]], ychydig i'r de-orllewin o [[Henryd]]. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn dyddio o'r [[6ed ganrif]]. Credir y gall rhannau o'r eglwys bresennol ddyddio o'r [[12fed ganrif]], ac mae rhannau healaeth ohoni o'r [[14eg ganrif]]. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y [[15fed ganrif]].
 
Defnyddid yr hen eglwys yn gyson hyd 1840, pan adeiladwyd eglwys newydd yn is i lawr, gerllaw y Groes Inn ar y ffordd B5106. Mae'r eglwys newydd wedi cau bellach, ond mae ambell i wasanaeth yn cael ei gynnal yn yr hen egllwys yn yr haf. Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin. Ceir hefyd weddillion stabl gerllaw. Ceir nifer o olion o gyfnod cynharach yn yr ardal hefyd, a hen draciau yn arwain i gyfeiriad [[Bwlch y Ddeufaen]].
 
==Llyfryddiaeth==