Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: af:Vulgêrlatyn; cosmetic changes |
||
Llinell 3:
Roedd Lladin Llafar yn wahanol i [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]] yn ei hynganiad, geirfa a [[gramadeg Lladin|gramadeg]]. Nid oedd Lladin Llafar yn iaith ysgrifennedig felly mae'n rhaid i ieithyddion droi at ddulliau anuniongyrchol o'i hastudio.
== Hanes ==
Gan nad ysgrifennwyd iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]]; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaethpwyd gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaradwyd Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn datgelu manylion am iaith lafar yr awdur.
Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, [[Lladin Canol]], oherwydd pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion [[Lladin Clasurol]].
Datblygodd Lladin Llafar yn wahanol yng ngwahanol tirgiogaethau'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], gan ddatblygu’n raddol i mewn i [[Ffrangeg]], [[Catalaneg]], [[Eidaleg]], [[Sbaeneg]], [[Portiwgaleg]],
Fe wyddwn fod y tafodieithoedd Lladin yn hollol annealladwy o’i gilydd erbyn y [[9fed ganrif]]. Isod gweler llw o [[842]] a ysgrifennwyd yn Lladin hollol wahanol i'r iaith glasurol:
<blockquote>
Llinell 16:
</blockquote>
== Gramadeg ==
=== Y Fannod Romáwns ===
=== Colli'r cenedl niwtral ===
Disodlwyd tair [[cenedl enwau|cenedl ramadegol]] [[Lladin Clasurol]] gan system ddwy-genedl yn y rhan fwyaf o'r [[Ieithoedd Romáwns]]. Yn Lladin mae cenedl yn fater o [[ffurfdro]], e.e mae yna wahanol patrymau gogwyddo a gyfeillechir gyda'r gwrywaidd, benywaidd a'r niwtral. Mae cenedl hefyd yn fater o gytundeb, e.e mae'n rhaid i ansoddeiriau gytuno gyda'r enwau yn ôl cenedl (yn ogystal â [[rhif gramadegol|rhif]] a [[cyflwr gramadegol|chyflwr]]).
Arweinodd colled y cytseiniaid olaf at ail-ddadansoddiad o'r system genedl. Er enghraifft yn Lladin Clasurol, gwahaniaethai'r terfyniadau ''-us'' ac ''-um'' rhwng y gwrywaidd a'r niwtral yn yr ail ogwyddiad; gyda'r ''-s'' a ''-m'' wedi diflannu, ymunodd y niwtral gyda'r gwrywaidd. Dyma broses sydd yn gyflawn yn yr ieithoedd Romáwns. Cafodd rhai enwau niwtral yn y lluosog fel ''gaudia'', "llonder", eu hail-ddadansoddi fel enwau benywaidd unigol. Cafodd y rhan fwyaf o enwau niwtral eu hymrwymo i mewn i'r genedl wrywaidd oherwydd y newidiadau seiniol a wanhaodd ddiwedd geiriau.
=== Colli'r cyflyrau ===
{| font="Arial Unicode MS" align="right" style="margin: 2px; margin-left: 12px;"
! Lladin Clasurol
Llinell 50:
|Abladol:||''aqua''
|}
Oherwydd y newidiadau seiniol a ddigwyddai yn Lladin Llafar, fe ddeath yn galetach i gadw’r system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau]] enwol. Oherwydd colled yr /m/ ar ddiwedd geiriau,
Fe ddiflannodd y cyflyrau yn raddol. Cadwai [[Hen Ffrangeg]] wahaniaeth rhwng y [[cyflwr goddrychol]] a’r [[cyflwr gwrthrychol]] (cas-sujet/cas-régime) a ddiflannodd yn y [[12fed ganrif]]. Ceidw Rwmaneg [[cyflwr genidol|gyflwr genidol]] a [[cyflwr derbynniol|chyflwr derbynniol]] o hyd yn ogystal ag olion o [[cyflwr cyfarchol|gyflwr cyfarchol]].
Fe farciwyd y gwahaniaeth rhwng ungiol a lluosog mewn dwy ffordd yn yr [[ieithoedd Romáwns]].
=== Lluosi arddodiaid ===
Wrth i’r cyflyrau wanhau yn Lladin, roedd yn rhaid i arddodiaid gael eu creu i osgoi amwysedd annerbyniol. Cafodd nifer o arddodiaid newydd eu hadeiladu gan roi hen arddodiaid at ei gilydd. Mae’r [[Ieithoedd Romáwns]] yn llawn geirynnau gramadegol a grëwyd fel hyn; Sbaeneg “donde”, “ble”, o’r Lladin "de" + "unde", neu’r Ffrangeg "dès", "ers", o’r Lladin "de" + "ex" . Daw "depués" yn Sbaeneg a "deopis" yn Bortiwgaleg o "de" + "ex" + "post". Mae rhai o’r cyfansoddion newydd hyn yn ymddangos mewn testunau llenyddol yn ystod yr Ymerodraeth Hwyr;
Tra gollai Lladin ei chyflyrau, dechreuodd arddodiaid lenwi’r bylchau. Er enghraifft yn Lladin Llafar, fe ddefnyddiwyd yr arddodiad "ad" gyda’r cyflwr gwrthrychol i wneud i fynny am y cyflwr derbynniol gwan:
Llinell 67:
:''Marcus dat librum ad patrem.'' "Rhôdd Marcus lyfr i’w dad"
Weithiau,
'''Lladin Clasurol:'''
Llinell 75:
:''Marcus mihi dat librum de patre.'' "Rhôdd Marcus lyfr ei dad imi"
=== Berfau ===
Effeithiwyd y ffurfiau berfol llawer yn llai gan y colledion ffonetig a erydodd y system o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau enwol]]; yn wir, ymddengys berfau Sbaeneg neu Bortiwgaleg (a nifer o ieithoedd Romáwns) yn debyg iawn i’w ffurfiau hynafol Lladin o hyd. Un rheswm am hyn oedd yr aceniad cryf a ddatblygodd yn Lladin Llafar a roddodd bwyslais ar sillafau gwahanol yn y ffurfiau rhediedig. Felly, parhaodd y ffurfiau i esblygu’n ffonetig, ond ni erydodd y gwahaniaethau rhwng y ffurfiau rhediedig.
Llinell 89:
Ffurfiwyd [[modd amodol]] (a wahaniaethai o'r modd dibynnol traddodiadol) yn yr un ffordd (amhenodol + ffurf rhediedig o ''habere'').
== Geirfa ==
== Cyfeiriadau ==
<references/>
Llinell 99:
[[Categori:Ieithoedd Romáwns]]
[[af:Vulgêrlatyn]]
[[an:Latín bulgar]]
[[bg:Простонароден латински език]]
|