Enseffalitis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn (mwy i'w wneud)
 
achosion a symptomau
Llinell 11:
}}
[[Llid]] [[meinwe]]'r [[ymennydd]] yw '''enseffalitis'''.
 
==Achosion==
[[Feirws|Firysau]] cyffredin gan amlaf sy'n gyfrifol am enseffalitis firaol. Mae'r rhain yn cynnwys [[y frech goch]], [[brech yr ieir]], [[y ffliw]], [[rwbela]], firysau [[polio]], [[enterofeirws|enterofirysau]], [[herpes simplecs]], [[epstein bar]], a [[clwy'r pennau|chlwy’r pennau]].<ref name="achosion">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/e/enseffalitis/achosion |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Achosion |dyddiadcyrchiad=5 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Caiff enseffalitis [[arbofirws]] ei achosi gan grŵp o firysau sy’n cael eu cario a'u trosglwyddo drwy bigiadau gan rai [[arthropod]]au, [[ffylwm]] o anifeiliaid sy'n cynnwys [[mosgito]]s a [[trogen|throgod]].<ref name="achosion"/>
 
Gall heintiau [[bacteria|bacteriol]], [[ffwng|ffyngaidd]], neu [[parasit|barasitig]] hefyd achosi enseffalitis, ond yn anaml mae hyn yn digwydd. Mae achosion eraill yn cynnwys [[listeriosis]], [[brwselosis]], [[y pas]], [[y gynddaredd]], adwaith [[alergi|alergaidd]] i frechiad, a [[gwenwyn plwm]].<ref name="achosion"/>
 
Mewn dros 50% o achosion enseffalitis, nid oes modd pennu achos yr haint.<ref name="achosion"/>
 
==Symptomau==
Gall [[symptom]]au cynnar enseffalitis, sy'n datblygu mewn ychydig oriau neu dros ychydig ddyddiau, ymddangos yn gyntaf fel symptomau'n debyg i'r ffliw neu feirws cyffredin. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys [[cur pen eithafol]], [[twymyn]], [[cyfog]], [[chwydu]], teimladau cysglyd, a dryswch. Gall enseffalitis effeithio ar bron unrhyw un o swyddogaethau'r ymennydd yn ddifrifol gyda chanlyniadau megis sensitifrwydd i oleuadau llachar, [[colli cof]], colli rheolaeth dros weithgareddau corfforol megis siarad a symud, newidiadau i'r synhwyrau, gwddf a chefn anystwyth, gwendid cyhyrol, [[ffit]]iau, ac hyd yn oed teimladau o [[cysgadrwydd|gysgadrwydd]] a all arwain at [[coma|goma]]. Amrywiol yw canlyniadau'r afiechyd i'r dioddefwyr: maen'n bosib i nifer o bobl gwella'n llwyr o achos ddifrifol o'r salwch, ond mewn rhai achosion bydd cleifion yn cael eu gadael â niwed difrifol i'r ymennydd neu allai enseffalitis hyd yn oed profi'n farwol.<ref name="symptomau">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/e/enseffalitis/symptomau |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Symptomau |dyddiadcyrchiad=5 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Gweler hefyd==