Tŷ BISF: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Bardrainney BISF Houses.JPG|bawd|dde|300px|Tai BISF yn Bardrainney Avenue, Port Glasgow. Mae'r tai ar y chwith wedi eu hadnewyddu gyda rendr newydd, tra bod y tai ar y dde yn agosach at eu cyflwr gwreiddiol.]]
Math o [[tŷ|dŷ]] yw'r '''BISF''' a adeiladwyd ar hyd a lled Prydain rhwng [[1946]] ac [[1952]] fel rhan o tai [[Rhaglen dai y Weinyddiaeth Waith yn dilyn yr Ail Ryfel Byd|raglen dai y Weinyddiaeth Waith]] ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]]<ref>https://www.bisfhouse.com/history/</ref>, gyda nifer ohonynt yng Nghymru. Daw'r enw ar y dyluniad o enw'r cwmni a ffurfiwyd i'w hadeiladu: y ''British Iron and Steel Federation''. Dyluniwyd y tŷ gan y Pensaer [[Frederick Gibberd]], a fyddai'n mynd ymlaen i ddylunio [[Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl]].
 
Tra bod y mwyafrif o dai ym Mhrydain wedi eu hadeiladu o waliau o friciau sy'n cynnal toeon a lloriau, mae tŷ BISF wedi'i gynnal gan ffram [[dur|ddur]] sydd wedi'i chuddio (yn y dyluniad gwreiddiol) gan blatiau dur ar y llawr uchaf a chan mesh dur wedi'i [[rendr]]o ar y llawr gwaelod. Roedd y toeon gwreiddiol o [[alwminiwm]] neu sement gydag [[asbestos]] ynddo, ond mae nifer fawr o'r rhain wedi eu disodli gan doeon modern bellach.