Baich y Dyn Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:White mans burden the journal detroit.JPG|bawd|320px|Cartŵn, gyda'r enw "''The White Man's Burden''", a gyhoeddwyd yn ''The Journal, [[Detroit]]'' yn ystod [[Rhyfel Pilipinas-Unol Daleithiau America]] yn dangos Americanwr yn cario brodor an-Orllewinol ystrydebol i [[ysgol (addysg)|ysgoldy]].]]
Cysyniad ideolegol yng ngwasanaeth [[imperialaeth]] [[y Gorllewin]] oedd "'''Baich y Dyn Gwyn'''" (Saesneg: ''The White Man's Burden''). Roedd yn un o gymhellion [[ideoleg]]ol a [[moeseg|moesol]] amlycaf ymerodraethau'r Gorllewin wrth iddynt oresgyn rhan helaeth o wledydd yn [[Affrica]] ac [[Asia]] a rhannau eraill o'r byd yn y 19eg ganrif. Ceir yr ymadrodd mewn print am y tro cyntaf yn y gerdd "The White Man's Burden" gan y bardd Seisnig [[Rudyard Kipling]] ar gyfer jiwbili'r Frenhines [[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|Fictoria]] er mwyn dathlu'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] ac annog ei hymestyn. Cafodd y gerdd ei gyhoeddi yn y cylchgrawn ''McClure's'' yn 1899 yn yr [[Unol Daleithiau]], gyda'r is-deitl 'The United States and the Philippine Islands'. Cafodd yr ymadrodd ei boblogeiddio gan imperialwyr yn UDA fel cyfiawnhad dros imperialiaeth yn nhermau moesol.
 
Yn ôl y safbwynt a grynhoir yn yr ymadrodd "Baich y Dyn Gwyn", mae credoau gwleidyddol, diwylliannol neu grefyddol yn arwain gwladwriaethau i weld imperialaeth fel "gweithgaredd cenhadol". "Baich y Dyn Gwyn" oedd hi i wareiddio yr "[[anwariad|anwariaid]]" y tu allan i'r [[Y Gorllewin|Gorllewin]]. Y tu ôl i'r syniad roedd y gred fod y gwynion yn fwy datblygedig a gwareiddiach na'r pobloedd brodorol ac mae eu dyletswydd moseol nhw oedd eu "dyrchafu" a'u "goleuo" yn ôl eu cysyniadau nhw o'r hyn y dylai [[gwareiddiad]] fod.