Tôn (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
man wall iaith
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 48:
Fe ddarganfyddwyd tarddiad tonau yn Nwyrain a De-ddwyrain Asia gan yr ieithydd [[A.-G. Haudricourt]]: tardd tonau mewn ieithoedd fel [[Fietnameg]] a [[Tsieinëeg]] o wrthgyferbyniadau cytseinol cynharach. Erbyn hyn mae ieithyddion yn cytuno nad oedd dim tonau mewn [[Hen Tsieinëeg]]. Ar y llaw arall, mae tarddiad tonau yn Affrica Is-Sahara yn anhysbys o hyd: fe ystyrir bod ieithoedd Bantw yn disgyn o iaith donyddol.
 
Fe elwir tarddiad hanesyddol tonau yn [[tonogenesis]] (gair a grëwyd gan yr ieithydd [[James A. Matisoff]]). Yn aml mae tôn yn nodwedd awyrol yn hytrach na genetig: Hynny yw, gallai iaith ennill tonau drwy ddwyieithrwydd os yw ieithoedd dylanwadol cyfagos yn donyddol neu os yw siaradwyr iaith donyddol yn newid i'r iaith mewn cwestiwn ac yn dod â'u tonau iddi. Mewn achosion eraill, cwyd tôn yn wirfoddol ac yn gyflym: Mae tôn gan dafodiaith Cherokee a siaredir yn Oklahoma ond nid oes tôn gan y dafodiaith a siaredir yng [[Gogledd Carolina|Ngogledd Carolina]], er gwahanu'rgwahanodd y ddwy dafodiaith yn [[1838]].
 
Yn aml iawn cwyd tôn oherwydd colled cytseiniaid. Mewn iaith ddidonyddol mae cytseiniaid lleisiol yn achosi'r llafariad sy'n dilyn i gael eu hyngangu ar draw is. Fel arfer dim ond manylyn bach ffonetig yw hyn. Ond, os bydd y lleisio'n cael ei golli, byddai'r gwahaniaeth mewn traw yn aros ar ôl i gario'r gwahaniaeth a gariodd y lleisio coll, ac fe ddaw'r traw is yn ystyrlon (ffonemig), hynny yw, ond traw sy'n gwahaniaethu rhwng y ddau neu fwy o eiriau bellach.