Ieithoedd Brythonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 5:
Roedd ieithyddion cynnar yn amau a oedd ieithoedd teulu'r Frythoneg yn perthyn i deulu'r ieithoedd [[Indo-Ewropeaidd]] oherwydd eu gramadeg a'u geirfa estron. Erbyn heddiw mae'r cysylltiad rhwng y Frythoneg a'r [[Goideleg]], ill dwy yn disgyn o'r Gelteg, wedi ei disgrifio'n helaeth. Disgrifir yr ieithoedd Celteg a siaredid ar Ynys Prydain ac Iwerddon fel ieithoedd y Gelteg Ynysig. Ymhlith hynodion gramadeg disgynyddion y teulu hwn y mae treiglo ac arddodiaid rhediadol. Mae ieithyddion wedi awgrymu mai olion iaith frodorol Ynys Prydain ac Iwerddon yw'r nodweddion hynod yma. Ond gan nad yw ieithoedd Celtaidd eraill Ewrop wedi goroesi nid yw'n bosib cymharu disgynyddion ieithyddol byw y Gelteg Ynysig gyda disgynyddion unrhyw gangen arall o'r [[ieithoedd Celtaidd]].
 
Ni wyddys i sicrwydd o ba le na sut na phryd y cyrhaeddodd iaith Geltaidd Ynys Prydain. Ymhlith y niferoedd lawer o ddamcaniaethau hawlia rhai arbenigwyr fod y Celtiaid wedi cyrraedd tua 2000 CC. Dadleua eraill iddynt gyrraedd Prydain ac Iwerddon ynghynt fyth gyda lledaeniad [[amaethyddiaeth]] ar draws [[Ewrop]]. Dadleua eraill bod goresgynwyr Celtaidd wedi dod â’u diwylliant a’u hiaith ganddynt wedi 700 CC, gan ddisodli’r brodorion, er bod tystiolaeth enetig erbyn hyn i wrthddweud y syniad hwn. Y ddamcaniaeth a gaiff y gefnogaeth fwyaf ar hyn o bryd yw’r ddamcaniaeth mai'r iaith Geltaidd a'i diwylliant a ymledodd yn hytrach na'r bobl. Ymledodd yn raddol ar draws rhannau helaeth o [[Ewrop]], gan gael ei chymathu gan y brodorion. <ref name=Hanescymru> John Davies, ''Hanes Cymru'' (The Penguin Press, 1990) </ref> Tybir y gallasai masnachwyr yr Ewrop Atlantig yng nghanrifoedd olaf Oes y Pres fod yn ffactor bwysig yn y lledu hwn, gan iddynt efallai ddefnyddio Celteg yn '[[lingua franca]]'.
 
Fe wyddys mai'r Frythoneg oedd iaith y rhan fwyaf o Ynys Prydain erbyn dyfodiad y [[Rhufeiniaid]] yn y ganrif gyntaf. Nid oes neb yn siŵr a siaradai'r Pictiaid yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban iaith cyn-Gelteg ynteu Gelteg. Erbyn hyn dadleua mwyafrif yr ysgolheigion mai iaith Gelteg a siaradai'r Pictiaid. Mae'n bosib hefyd mai iaith Goideleg a siaredid yn y rhannau o arfordir Gorllewin yr Alban sy'n agos at Ogledd Iwerddon.
 
==Nodweddion ieithyddol==