William Salesbury: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Ei waith ar fotaneg
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23:
Bu William Salesbury, a oedd yn [[Protestaniaeth|Brotestant]] i'r carn, yn cuddio mewn lloches drwy gydol teyrnasiad y frenhines [[Catholigiaeth|Babyddol]] [[Mari I o Loegr|Mari I]], felly nid argraffwyd dim byd ganddo yn y cyfnod hynny. Dechreuodd ei gyfieithu unwaith eto gydag esgyniad y Frenhines [[Elisabeth I o Loegr|Elisabeth]] i'r orsedd. Yn 1563 argymhellodd i'r Senedd basio deddf a wnâi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau esgobion Cymru a [[Henffordd]]. Mae'n gyfrifol hefyd am un o'r ceisiadau cynharaf i ddisgrifio seiniau'r iaith Gymraeg yn ei ''A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong'' (1550, ailargraffwyd 1567).
 
===Gwaith botanegol===
Yn ogystal â'i waith cyfieithu, roedd Salesbury yn arloeswr cynnar ym myd botaneg. <ref>{{dyf llyfr | olaf = Jones | cyntaf = Dewi | teitl = John Lloyd Williams y Botanegydd | blwyddyn = 2000 | siwrnal = Y Traethodydd | cyhoeddwr = Gwasg Pantycelyn | lleoliad = Caernarfon | dyddiadcyrchiad = 22 Awst 2018 | url = http://hdl.handle.net/10107/1162341}}</ref> Wedi ei ddylanwadu gan yr Almaenwr Leonhart Fuchs a'r Sais William Turner, ysgrifennodd lysieulyfr gan bwysleisio effeithiau meddyginiaethol planhigion. <ref>{{dyf gwe | teitl = Cymraeg yr Hen Lysieulyfr | awdur = Davies, Raymond B | dyddiad = 2008 | dyddiadcyrchiad = 22 Awst 2018 | gwaith = Y Casglwr | url = http://www.casglwr.org/yrarchif/14cymraeg.php}}</ref> Ni chafodd y llyfr ei gyhoeddi yn ystod bywyd Salesbury, ond fe'i cyhoeddwyd yn 1916 o dan yr enw ''Llysieulyfr Meddyginiaethol a Briodolir i William Salesbury'' wedi ei olygu gan E. Stanton Roberts. Cyhoeddwyd ailargraffiad yn 1997 gan Iwan Rhys Edgar gyda'r teitl ''Llysieulyfr Salesbury''. <ref>{{dyf llyfr | olaf = Wynne | cyntaf = Goronwy | teitl = Blodau Cymru: Byd y Planhigion | blwyddyn = 2017 | cyhoeddwr = Y Lolfa | lleoliad = Talybont, Ceredigion | isbn = 978-1-78461-424-9}}</ref>