Barcelona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ext:Barcelona
Mtaylor848 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10:
 
== Hanes ==
[[File:Escut de Barcelona.svg|thumb|right|''Escut de Barcelona'']]
 
Mae gweddillion o ddiwedd y cyfnod [[Neolithig]] wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog [[Carthage|Carthaginaidd]] [[Hamilcar Barca]], tad [[Hannibal]]. Yn ystod yr [[Ail Ryfel Pwnig]] cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn ''Julia Augusta Paterna Faventia Barcino'' yn y flwyddyn [[218 C.C]].
Llinell 15 ⟶ 16:
Yn y [[5ed ganrif]] daeth yn brifddinas teyrnas y [[Visigothiaid]] yn Sbaen, ac yn yr [[8fed ganrif]] daeth dan reolaeth [[Islam|Islamaidd]] wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn [[801]], ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn [[985]] gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y [[13eg ganrif]], ond o'r [[15fed ganrif]] bu dirywiad. Tua diwedd y [[18fed ganrif]] dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y [[19eg ganrif]].
 
Yn ystod [[Rhyfel Cartref Sbaen]] yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin [[Francisco Franco|Franco]] yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.
 
== Mannau o ddiddordeb ==