Orlando Bloom: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Ffilmiau: clean up
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Ei fywyd cynnar: Golygu cyffredinol (manion), replaced: er waethaf → er gwaethaf using AWB
 
Llinell 37:
Ganwyd Orlando Bloom yng [[Caergaint|Nghaergaint]], [[Swydd Gaint]], [[Lloegr]]. Ganwyd ei fam, Sonia Constance Josephine (née Copeland), yn yr adran Brydeinig o [[Kolkata]], [[India]], yn ferch i Betty Constance Josephine Walker a Francis John Copeland, a oedd yn [[meddyg|feddyg]] ac yn [[llawfeddyg]]. Ar ochr ei fam, mae Bloom yn gefnder i'r [[ffotograffydd]] [[Sebastian Copeland]]. Trigai teulu mamgu Bloom ar ochr ei fam yn [[Tasmania]], [[Awstralia]] a'r India, ac roeddent o dras Seisnig, gyda rhai ohonynt yn dod o Swydd Gaint yn wreiddiol. [[Delwedd:Orlando Bloom 2005.jpg|bawd|chwith|150px|Orlando Bloom yn 2005]]Yn ystod ei blentyndod, dywedwyd wrth Bloom mai ei dad oedd gwr ei fam, y nofelydd gwrth-[[apartheid]] [[Iddew]]ig a anwyd yn [[De Affrica|Ne Affrica]] Harry Saul Bloom; fodd bynnag, pan oedd yn dair ar ddeg (naw mlynedd ar ôl marwolaeth Harry), esboniodd mam Bloom wrtho mai ei dad biolegol oedd Colin Stone, partner ei fam a ffrind i'r teulu. Gwnaed Stone, pennaeth ysgol iaith Concorde International, yn warcheidwad cyfreithiol ar Bloom pan fu farw Harry Bloom. Mae gan Bloom, a enwyd ar ôl y [[cyfansoddwr]] o'r [[16g]] [[Orlando Gibbons]], un chwaer, Samantha Bloom, a anwyd ym 1975.
 
Magwyd Bloom yn [[Eglwys Lloegr]]. Fel plentyn llwyddodd Orlando i oroesi yn Ysgol y Brenin Caergaint ac Ysgol San Edmund yng Nghaergaint er waethafgwaethaf ei [[dyslecsia|ddyslecsia]]. Cafodd ei annog gan ei fam i gymryd rhan mewn dosbarthiadau [[celf]] a [[drama]]. Ym 1993, symudodd i [[Llundain|Lundain]] er mwyn dilyn cwrs dwy flynedd Lefel A yn Nrama, [[Ffotograffiaeth]] a Cherflunio yng Ngholeg y Celfyddydau Cain, [[Hampstead]]. Yna, ymunodd â'r Theatr Ieuenctid Isa, gan dreulio dau dymor yno, gan ennill ysgoloriaeth i hyfforddi yn yr [[Academi Ddrama Americanaidd Brydeinig]]. Dechreuodd Bloom actio'n broffesiynol gyda rôlau mewn cyfresi [[teledu]] fel ''[[Casualty (cyfres deledu)|Casualty]]'' a ''[[Midsomer Murders]]'', cyn iddo fentro i fyd ffilmiau lle serennod yn ei ffilm gyntaf ''[[Wilde (ffilm)|Wilde]]'' (1997), gyda [[Stephen Fry]]. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i Ysgol Gerdd a Drama Guildhall yn Llundain, lle astudiodd actio.
 
== Ffilmiau ==