Seland Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 107:
Mae gan Seland Newydd economi fodern, datblygiedig a llewyrchus gyda [[Cynnyrch mewnwladol crynswth|CMC]] amcangyfrifol o $115.624 biliwn (2008). Mae ganddi safon byw cymharol uchel gyda CMC o $27,017 y pen, sy'n gymharol â De Ewrop. Ers 2000, gwnaeth Seland Newydd gynnydd sylweddol yn incwm canolog y cartref. Ni effeithiwyd Seland Newydd ac [[Awstralia]] gan ddirwasgiad dechrau'r [[2000au]] a effeithiodd ar y rhan fwyaf o wledydd Gorllewinol eraill. Fodd bynnag, gostyngodd CMC ymhob un o'r pedwar chwarter yn 2008.
Yn ôl nifer o arolygon rhyngwladol, mae gan drigolion Seland Newydd lefelau uchel o foddhad a hapusrwydd personol; mae hyn er
Sector fwyaf yr economi yw'r sector gwasanaethau (68.8% o CMC), ac yna cynhyrchu ac adeiladu (26.9% o CMC) tra bod ffermio a mwyngloddio deunyddiau crai yn cyfri am 4.3% o'r CMC.
|