Cyrch Barbarossa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|300px|Cyrch Barbarossa '''Cyrch Barbarossa''' (Almaeneg: ''Unternehmen Barbarossa'') oedd yr enw a roddwyd i ym...'
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Cyrch Barbarossa''' ([[Almaeneg]]: ''Unternehmen Barbarossa'') oedd yr enw a roddwyd i ymosodiad [[yr Almaen]] ar yr [[Undeb Sofietaidd]] ar [[22 Mehefin]] [[1941]] yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]]. Enwyd yr ymgyrch ar ôl yr [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] [[Ffrederic Barbarossa]]. Parhaoedd Cyrch Barbarossa ei hun hyd Rhagfyr 1941, ond parhaodd yr ymladd ar y ffrynt dwyreiniol hyd fis Mai [[1945]], pan ildiodd yr Almaen wedi i'r [[Fyddin Goch]] gipio [[Berlin]].
 
Nôd Cyrch Barbarossa oedd meddiannu rhan Ewropeaidd yr Undeb Sofietaidd. Roedd yr ymosodiad yn torri cytundeb heddwch rhwng [[Adolf Hitler]] a [[Joseff Stalin]]. Ar y cychwyn, enillodd yr Almaenwyr fuddugoliaethau mawr, gan lwyddo i amgylchynu nifer fawr o filwyr Rwsaidd a'u cymeryd yn garcharorion. Fodd bynnag, erbyn mis Hydref roedd yr ymosodiadau Almaenig yn cael llai o lwyddiant, yn rhannol oherwydd y mwd oedd wedi dilyn glawogydd yr hydref. Cyhaeddodd yr Almaenwyr hyd gyrion [[Moscow]], ond ni allasant fynd ymhellach. Gwrthododd Hitler ganiatâd iddynt i encilio i safleoedd mwy pwrpasol ar gyfer y gaeaf.
 
Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, a dilynwyd yr ymgyrch yma gan frwydrau ar raddfa enfawr yn ystod [[1942]] a [[1943]]. Yn raddol, gorfodwyd yr Almaenwyr i encilio o Rwsia, ac aeth y Fyddin Goch ymlaen i feddiannu rhan ddwyreiniol yr Almaen.