Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog"

Ychwanegwyd 2 feit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
 
B
 
== Hanes ==
Credir bod gwreiddiau'r sefydliad i'w olrhain i oes y saint Celtaidd cynnar pan sefydlwyd ''clas'' (cell neu fynachlog feudwyol) gan [[Teulyddog]] Sant, efallai yn y [[6ed ganrif]]. Os gwir hynny mae'n debyg mai i'r ddwyrain o'r hen [[Trefi Rhufeinig Cymru|dref Rufeinig]] [[Moridunum]] ar lan ddwyreiniol [[Afon Tywy]] y codwyd yr [[eglwys]] gynharaf. Erbyn [1100] roedd eglwys yn bodoli ar y safle, gysegredig i [[Ioan Efengylwr]]; eglwys [[Plwyfi Cymru|plwyf]] Caerfyrddin yn ddiweddarach. Cyflwynwyd yr eglwys honno ynghyd ag eglwys y fynachlog i[[Abaty ''Battle''] gan [[Harri I o Loegr]] a daeth yn eiddo i [[Urdd y Benedictiaid]] am rai flynyddoedd. Ond fe'i rhoddwyd i'r Awstiniaid gan yr [[Esgob Bernard]] o [[Tyddewi|Dyddewi]] yn [[1125]] a chysegrwyd yr eglwys i Ioan Efengylwr a Theulyddog. Roedd Cymry'n amlwg yn y priordy (nid oedd hynny'n wir am bob priordy [[Normaniaid|Normanaidd]] yn y wlad), ffaith sy'n gyfrifol am lwyddiant cynnar y sefydliad, efallai. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn i'r priordy ddechrau ymnormaneiddio, yr ysgrifenwyd y llawysgrif sy'n adnabyddus heddiw fel Llyfr Du Caerfyrddin gan ysgrifenwr anhysbys oedd yn perthyn i'r priordy. Roedd hefyd yn mwynhau incwm o'i feddiannau yn yr hen dref. Yn [[1291]] roedd incwm y sefydliad yn £30 ond mae'n debyg nad oedd hynny'n cynnwys yr incwm o'r tua 1500 erw o [[Tir Âr|dir âr]] oedd yn ei feddiant yn yr ardal. Erbyn [[1336]] roedd gan y priordy incwm o £66 ac roedd chwech [[canon]] yn byw yno yn [[1379]]. Erbyn diwedd y [[14eg ganrif]] roedd 22 eglwys yn ei feddiant a mwynheai incwm o tua £200. Yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth]] [[Owain Glyndŵr]] dioddefodd niwedddifrod sylweddol. Parhaodd fel sefydliad Awstinaidd tan [[1536]]; pan y diddymwyd roedd [[prior]] ac wyth canon yn byw yno gyda tua 80 o bobl yn gweithio iddo ac elusen yn cael ei rhoi i tua 80 o dlodion; gwerth y priordy oedd £164.
 
== Yr Adeiladau ==