Enseffalitis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diagnosis
Llinell 27:
==Symptomau==
Gall [[symptom]]au cynnar enseffalitis, sy'n datblygu mewn ychydig oriau neu dros ychydig ddyddiau, ymddangos yn gyntaf fel symptomau'n debyg i'r ffliw neu feirws cyffredin. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys [[cur pen eithafol]], [[twymyn]], [[cyfog]], [[chwydu]], teimladau cysglyd, a dryswch. Gall enseffalitis effeithio ar bron unrhyw un o swyddogaethau'r ymennydd yn ddifrifol gyda chanlyniadau megis sensitifrwydd i oleuadau llachar, [[colli cof]], colli rheolaeth dros weithgareddau corfforol megis siarad a symud, newidiadau i'r synhwyrau, gwddf a chefn anystwyth, gwendid cyhyrol, [[ffit]]iau, ac hyd yn oed teimladau o [[cysgadrwydd|gysgadrwydd]] a all arwain at [[coma|goma]]. Amrywiol yw canlyniadau'r afiechyd i'r dioddefwyr: maen'n bosib i nifer o bobl gwella'n llwyr o achos ddifrifol o'r salwch, ond mewn rhai achosion bydd cleifion yn cael eu gadael â niwed difrifol i'r ymennydd neu allai enseffalitis hyd yn oed profi'n farwol.<ref name="symptomau">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/e/enseffalitis/symptomau |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Symptomau |dyddiadcyrchiad=5 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Diagnosis==
Gwneir [[diagnosis meddygol|diagnosis]] o enseffalitis gan ddefnyddio [[pigiad meingefnol]] (tap sbinol), lle archwilir [[hylif serebro-sbinol]] o'r asgwrn cefn am dystiolaeth o haint. Os oes haint bacteriol bydd cynnydd yn nifer [[celloedd gwyn]] y gwaed yn yr hylif, ac yna gellir diystyru cyflyrau eraill megis [[tiwmor ar yr ymennydd]], [[sglerosis ymledol]] neu [[strôc]]. Caiff prawf ei wneud ar yr hylif am ronynnau firaol hefyd, yn enwedig y feirws herpes simplecs. Yn ogystal gwneir profion [[gwaed]] er mwyn diystyru achosion o enseffalitis nad ydynt yn firaol, megis [[enceffalopathi metabolig]].<ref name="diagnosis">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/e/enseffalitis/diagnosis |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Enseffalitis: Diagnosis |dyddiadcyrchiad=13 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Mae meddygon hefyd yn defnyddio sganiau [[sgan CT|CT]] ac [[sgan MRI|MRI]] i wneud diagnosis o enseffalitis. Mae'r sganiau yn dangos mannau o chwyddo ac [[edema]] (dropsi) yn yr ymennydd, sydd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng enseffalitis ac afiechydon eraill megis tiwmor neu strôc. Gall electroenseffalogram (EEG) hefyd helpu i gadarnháu diagnosis drwy gofnodi unrhyw batrymau anarferol (cynnydd neu ostyngiad annormal) o weithgarwch trydanol yn yr ymennydd.<ref name="diagnosis"/>
 
Yn y Deyrnas Unedig mae enseffalitis yn [[clefyd hysbysadwy statudol|glefyd hysbysadwy statudol]] felly mae'r meddyg sy'n gwneud y diagnosis yn gyfrifol am roi gwybod amdano i'r adran Iechyd Cyhoeddus leol.<ref name="diagnosis"/>
 
==Gweler hefyd==