Thomas Roberts, Llwyn'rhudol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Awdur Cymraeg radicalaidd oedd '''Thomas Roberts''' (1765/6 - 24 Mai 1841<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-ROBE-THO-1765.html Bywgraffiadur Arlein]</ref>), a chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd gwleidyddol a diwylliannol [[Cymry Llundain]] ac a gofir fel awdur y bamffled ddylanwadol ''Cwyn yn erbyn gorthrymder'' ac fel un o sefydlwyr [[Cymdeithas y Gwyneddigion]]. Cyfeirir ato gan amlaf fel '''Thomas Roberts, Llwyn'rhudol'''. Roedd yn wladgarwr pybyr.
 
Ganed Thomas Roberts yn Llwyn'rhudol (hefyd: Llwynrhudol) ym mhlwyf [[Abererch]], ger [[Pwllheli]], [[Eifionydd]], yn 1795 neu 1796. Cyfreithiwr cefnog oedd ei dad, Robert Williams o'r Llwyndu, [[Llanllyfni]]. Bu farw rhieni Thomas yn bur gynnar ac aeth i fyw a gweithio yn [[Llundain]] cyn cyrraedd ei 14 oed. Gweithiai fel eurof yno. [[Crynwr]] oedd o ran ei daliadauddaliadau crefyddol.<ref>John James Evans, ''Cymry enwog y ddeunawfed ganrif'' (Gwasg Aberystwyth, 1937). Pennod IV.2.</ref>
 
Ymunodd ym mwrlwm bywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymreig Llundain. Bu'n un o sefydlwyr [[Cymdeithas y Gwyneddigion]], gyda [[Jac Glan-y-gors]] ac eraill, yn 1793. Yn 1794, bu'n un o'r deg a sefydlodd [[Cymdeithas y Cymreigyddion|Gymdeithas y Cymreigyddion]].