Affricaneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 27:
 
Mae Afrikaans yn nodweddiadol am fod yn un o'r [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] mwyaf [[iaith analytig|analytig]]. Hi yw'r unig [[ieithoedd Germanaidd|iaith Germanaidd]] sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandir [[Affrica]].
 
==Statws a Brwydr yr Iaith==
Tybir i Afrikaans ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad van Riebeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y dau can blynedd nesa fe aeth yr Iseldireg safonnol drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel ''Kaaps Hollands'' ac, yn fwy dirmygus, ''kombuistaal'' ('iaith y gegin' - nid yn anhebyg i ymadrodd 'iaith a gegin gefn' a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).
 
Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y [[Genootskap van Regte Afrikaners]] (Afrikaans ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaniaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Afrikaans o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Afrikaans o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Afrikaans"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.
 
Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r Beibl i'r Afrikaans yn 1933.
 
==Y ''Taalmonument'' - Cofeb i'r Iaith Afrikaans==