Aristoteles: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
[[Athronydd]] [[Groeg yr Henfyd]] oedd '''Aristoteles'''<ref name=GyA/> (hefyd '''Aristotlys'''<ref name=GyA>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Aristotle].</ref> neu '''Aristotlus''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]:
Ἀριστοτέλης). Fe'i
ganwyd yn [[384 CC]] yn Stagira, [[Chalcidici]]; ac fe fu farw ar [[7 Mawrth]], [[322 CC]] yn [[Chalcis]], [[Ewboia]] yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]].
 
Roedd yn fyfyriwr i [[Platon]] ac yn athro i [[Alecsander Fawr]]. Ysgrifennodd ynglŷn ag amryw feysydd, gan gynnwys [[ffiseg]], [[barddoniaeth]], [[bioleg]], [[rhesymeg]], [[rhethreg]], [[gwleidyddiaeth]], [[llywodraeth]], a [[moeseg]]. Ynghyd â [[Socrates]] a [[Platon]], roedd yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol Groeg yr Henfyd. Trawsnewidiasant [[athroniaeth Gynsocrataidd]] yn sylfeini'r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i [[Platon]] ac Aristoteles ffurfio dwy ysgol bwysicaf [[athroniaeth hynafol]]; tra bod eraill yn gweld dysgeidiaeth Aristoteles yn ddatblygiad a diriaethiad o weledigaeth Platon.