Wicipedia:Arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Canrifoedd: manion y/yr
→‎Enwau lleoedd: diwygio i adlewyrchu'r sefyllfa sydd ohoni ar Wicipedia ar hyn o bryd
Llinell 103:
 
===Enwau lleoedd===
Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r ''Atlas Cymraeg Newydd'' (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeining a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisoes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji. Yn ogystal, mae [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]] wedi cyhoeddi rhestr o enwau prif wledydd y byd, ond heb gynnwys enw pob gwlad. Fel canlyniad, yn achos rhai enwau gwledydd ceir sawl cynnig ar y ffurf safonol i'w arfer yn Gymraeg : gweler [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]].
 
ArgymhellirCeir dilyny sillafiad yra Atlas Cymraeg Newyddarferir ar Wicipedia, felar ag ary restrrhestr '[[gwledyddGwledydd y byd]]'. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl.
 
Gellir ymghynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar sillafiad Cymraeg enwau lleoedd tramor trwy anfon e-bost at enwaulleoedd@bwrdd-yr-iaith.org.uk. Os yw ffurf Gymraeg neu enw tramor ar le o bosib yn ddieithr gellir ychwanegu'r enw Saesneg mewn cromfachau wedi'r defnydd cyntaf o'r enw mewn erthygl, e.e. Napoli (Naples), [[Efrog]] (York). Neu os yw enw lle yn cael ei gysylltu â'r erthygl ar y lle trwy gyswllt wici mae'n bosib i'r darllenydd gwirio'r ystyr trwy ddilyn y cyswllt.