John Williams (Ab Ithel): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ieithgi (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B dolen
Llinell 3:
Ganed ef yn [[Llangynhafal]], [[Sir Ddinbych]], yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd ei enw barddol "Ab Ithel" o enw ei daid, William Bethell. Addysgwyd ef yng [[Coleg Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu, Rhydychen]] a daeth yn gurad yn [[Llanfor]], ac yno y priododd Elizabeth Lloyd Williams. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, ''Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain'' yn [[1836]]. Yn [[1843]] daeth yn gurad parhaol [[Nercwys]], ac yn [[1849]] daeth yn rheithor [[Llanymawddwy]]. Yn [[1846]] dechreuodd gyhoeddi ''[[Archaeologia Cambrensis]]'' gyda H. Longueville Jones, a bu yn ei olygu o 1846 hyd [[1853]], ac roedd ganddo ran amlwg yn sefydlu ''[[Cymdeithas Hynafiaethau Cymru]]''.
 
Daeth Ab Ithel yn amlwg iawn ym maes ysgolheictod Gymreig yn ei ddydd, ac wedi marwolaeth [[Aneurin Owen]] penodwyd ef gan y[[The llywodraethWelsh Manuscripts Society]] i gwblhau'r cynllun o gyhoeddi yr ''[[Annales Cambriae]]'' a ''[[Brut y Tywysogion]]'', a ymddangosodd yn [[1860]]. Roedd yn drwm dan ddylanwad syniadau [[Iolo Morgannwg]], ac nid ystyrir ei waith o fawr werth gan ysgolheigion diweddar. Roedd yn un o brif drefnwyr [[Eisteddfod Fawr Llangollen]] yn [[1858]], pan wrthodwyd y wobr i [[Thomas Stephens]] am draethawd ar chwedl [[Madog]] am nad oedd yn derbyn gwirionedd yr hanes.
 
Ym mis Mawrth [[1862]] symudwyd ef i blwyf Llanenddwyn a Llanddwywe ([[Dyffryn Ardudwy]]), ond bu farw rai misoedd wedyn a chladdwyd ef yn [[Llanddwywe]].