Iolo Morganwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 22:
Cyfansoddodd Iolo nifer o gerddi. Yn eu plith mae'r cywyddau a dadogodd ar feirdd o'r [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]], rhai ohonynt yn feirdd hanesyddol, fel [[Dafydd ap Gwilym]], ac eraill yn greaduriaid o ben a phastwn Iolo ei hun. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r cywyddau dan y teitl ''Poems Lyric and Pastoral'' yn [[1794]]. Er i ddilysrwydd y cerddi hyn gael ei amau ac yna ei gwrthbrofi gan ysgolheigion yr [[20fed ganrif]], maent yn cael eu cydnabod fel cerddi gwych ynddynt eu hunain erbyn heddiw. Cyfansoddodd nifer fawr o emynau ar gyfer [[yr Undodiaid]] Cymraeg a gyhoeddwyd yn [[1812]]. Ysgrifennodd nifer o gerddi rhydd swynol yn ogystal.
 
Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd ''[[Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain]]'' yn [[1829]] ac yn [[1848]] gwelodd ei gasgliad mawr o farddoniaeth a rhyddiaith hanesyddol, ffug a dilys, olau dydd yn y gyfrol yr ''[[Iolo Manuscripts]]'' ([[The Welsh Manuscripts Society]], 1848). Yn ddiweddarach yn y [[19eg ganrif]] cyhoeddwyd rhai o'i ffugweithiau eraill, yn cynnwys ''[[Coelbren y Beirdd]]'' (1840), ''[[Dosparth Edeyrn Dafod Aur]]'' (The Welsh Manuscripts Society, 1856) a ''[[Barddas]]'' (dwyThe Welsh Manuscripts gyfrolSociety: 1862, 1874).
 
Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]] ers [[1916]].