The Welsh Manuscripts Society: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''The Welsh Manuscripts Society''' yn 1836 gan aelodau o Gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni fel cymdeithas hynaf...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dechreuodd y gymdeithas ei gwaith gyda'r gyfrol ''Liber Landavensis'' ([[Llyfr Llandaf]]), wedi'i golygu gan [[William Jenkins Rees|W. J. Rees]]. Yr ail gyfrol yn y gyfres, ''Heraldic Visitations'' (1846), sef golygiad o ddwy lawysgrif o'r 16eg ganrif gan yr achyddwr [[Lewys Dwnn]] yw'r bwysicaf o ran ei gwerth ysgolheigaidd parhaol: fe'i golygwyd gan [[Samuel Rush Meyrick]] gyda chymorth W. J. Rees. Mae'r cyhoeddiadau a ddilynodd yn llai boddhaol o ran eu hysgolheictod ac yn cynnwys y gyfrol ddylanwadol honno, yr ''[[Iolo Manuscripts]]'', sy'n cynnwys rhai o brif ffugweithiau "canoloesol" [[Iolo Morganwg]], wedi'i golygu gan ei fab [[Taliesin Williams]] a'r hanesydd [[Carnhuanawc]].
 
Dan olygyddiaeth [[John Williams (Ab Ithel)]] suddodd y safon ysgolheigol ac ystyrir y cyfrolau olaf a gyhoeddwyd — sef ''Dosparth Edeyrn Davod Aur'' (ffugiad gan Iolo Morganwg), golygiadau o'r ''[[Annales Cambriae]]'' a ''[[Brut y Tywysogion]]'', ''[[Meddygon Myddfai]]'' a ''[[Barddas]]'' (Iolo Morganwg) — yn weithiau na ellir dibynnu arnynt.
 
==Cyhoeddiadau==
*1840: ''Liber Landavensis''
*1846: James Dunn, ''Heraldic Visitations'' (Lewys Dwnn)
*1848: ''Iolo Manuscripts'' (ffugiadau Iolo Morganwg)
*''Lives of the Cambro-British Saints''
*1856: ''Dosparth Edeyrn Davod Aur'' (ffugiad gan Iolo Morganwg)
*1860: ''Annales Cambriae and Brut y Tywysogion''
*1861: ''Meddygon Myddfai''
*1862: ''Barddas'' (Iolo Morganwg)