Alergedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn ar achosion
Dim crynodeb golygu
Llinell 16:
==Achosion==
Achosir alergeddau gan [[system imiwnedd]] y corff yn adweithio i alergenau fel petaent yn niweidiol, drwy wneud i'r [[gwrthgorff]] [[Imiwnoglobwlin E]] (IgE) frwydro yn erbyn yr alergen. Mae IgE yn achosi i gelloedd gwaed eraill ryddhau cemegau, megis [[histamin]], sydd, gyda'i gilydd, yn achosi symptomau adwaith alergaidd. Histamin sy'n achosi'r rhan fwyaf o symptomau nodweddiadol sy’n digwydd mewn adwaith alergaidd, sef cyfangu'r [[cyhyr]]au, gan gynnwys y rheiny ym muriau tiwbiau aer yr [[ysgyfaint]]; cynyddu faint o hylif sy'n cael ei ryddhau o [[gwythien|wythiennau]] bychain, fel bod [[pilen]]nau'n chwyddo; a chynyddu faint o [[mwcws|fwcws]] sy'n cael ei gynhyrchu yn leinin y trwyn ac achosi [[cosi]] a [[llosgi lleol]].<ref name="achosion">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/a/alergeddau/achosion |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Alergeddau: Achosion |dyddiadcyrchiad=13 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
==Symptomau==
Nid yw adweithiau alergaidd yn digwydd y tro cyntaf y daw'r corff i gyswllt â'r alergen, ond adeg cyswllt diweddaraf. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i'r corff ddatblygu sensitifrwydd i rywbeth cyn y gall ddatblygu alergedd iddo.<ref name="symptomau">{{dyf gwe |url=http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/cy/hafan/gwyddoniaduriechyd/a/alergeddau/symptomau |gwaith=Gwyddoniadur Iechyd |cyhoeddwr=[[GIG Cymru|Galw Iechyd Cymru]] |teitl=Alergeddau: Symptomau |dyddiadcyrchiad=14 Awst |blwyddyncyrchiad=2009 }}</ref>
 
Mae symptomau mwyaf cyffredin adweithiau alergaidd yn cynnwys [[tisian]]; [[gwichian ar y frest]]; [[poen sinws]]; [[trwyn yn rhedeg]]; [[peswch]]; [[brech y danadl]] a [[llosg danadl]]; [[chwyddo]]; llygaid, clustiau, gwefusau, llwnc a [[taflod|thaflod]] sy'n [[cosi]]; [[diffyg anadl]]; a [[chwydu]] a [[dolur rhydd]].<ref name="symptomau"/>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 21 ⟶ 26:
 
[[Categori:System imiwnedd]]
{{eginyn iechyd}}
 
[[ar:أرجية]]