Mynediad am Ddim: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau) ehangu o'r Esboniadur |
||
Llinell 1:
Roedd hiwmor a'r elfen 'ffwrdd-â-hi' yn nodwedd amlwg yn eu canu o'r dechrau a cheid ganddynt gyfuniad o ganu gwerinol ei naws, a oedd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr Cymraeg y coleg ar y pryd, a chaneuon gwreiddiol hwyliog. Roedd elfen gref o dynnu coes yn yr enw ei hun ac ymgais i ddrysu cyhoeddwyr a darllenwyr posteri cyngherddau a [[noson lawen|nosweithiau llawen]].
==Aelodau==
Myfyrwyr
Yn 1975 cafwyd ychwanegiad allweddol at y chwe aelod gwreiddiol, sef Emyr Huws Jones, gŵr ifanc a oedd eisoes wedi gwneud ei enw gyda'r [[Tebot Piws]]. Un o'i ganeuon ef, sef 'Padi', a ddewiswyd pan aeth y band i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog Lleisiau (Adfer, 1975). Yn fuan wedyn ymadawodd Dewi Jones ac ymunodd Alun "Sbardun" Huws, un arall o gyn-aelodau'r Tebot Piws.
Yn 1976 penderfynodd Emyr Huws Jones gefnu ar berfformio, ond daliodd i gyfrannu caneuon. Llanwyd y bwlch gan Pete Watcyn Jones, gitarydd a mandolinydd profiadol. Wedi recordio record hir arall, 'Rhwng Saith Stôl' (Sain, 1977), trefnwyd taith i Lydaw (gyda [[Dafydd Iwan]]). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun 'Sbardun' Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i [[Tecwyn Ifan]], a gadawodd Mei Jones, hefyd, er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd.
Yn 1978 gadawodd Pete Watcyn Jones ac ymunodd Geraint Davies, un o gyn-aelodau [[Hergest (band)|Hergest]], â'r band. Yn 1982 ymunodd Rhys Ifans (a fu gyda Bando) fel gitarydd bas. Yr aelodau hyn – Emyr Wyn, Robin Evans, Graham Pritchard, Geraint Davies a Rhys Ifans – oedd asgwrn cefn y band o hynny ymlaen. Yn niwedd yr 1990au ychwanegwyd [[Delwyn Siôn]] fel aelod achlysurol.
Yn 2010 ymunodd Geraint Cynan (a fu'n aelod o [[Bwchadanas]] ac yn perfformio'n gyson gyda [[Siân James]]) gan ganu'r [[allweddellau]].
==Cefndir==
Roedd dylanwad canu gwerin [[Celt]]aidd, yn enwedig cerddoriaeth o [[Iwerddon]] a [[Llydaw]] yn sgil llwyddiant [[Alan Stivell]], yn drwm arnynt
Roedd y byd pop Cymraeg yn ei ieuenctid, gyda dim ond llond dwrn yn arloesi: [[Dafydd Iwan]], [[Heather Jones]], [[Meic Stevens]] a [[Huw Jones]], [[y Tebot Piws]]
==Digwyddiadau a datblygu==
Un o ganeuon Emyr Huws Jones, 'Padi', a ddewiswyd pan aeth y band i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf i gyfrannu un trac at y record amlgyfrannog ''Lleisiau'' (Adfer, 1975). Cafodd y band wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975, a daeth cyfle yn fuan wedyn i recordio record hir ar label Sain, Wa McSbredar, ar ôl un o ganeuon mwyaf poblogaidd y cyfnod hwnnw. Rhyddhawyd ail record hir, Mae'r Grŵp yn Talu (Sain, 1976), ac roedd pob cân bron naill ai o waith Emyr Huws Jones neu'n ganeuon/alawon traddodiadol, cyfuniad a fu'n sail i repertoire y band o hynny ymlaen. Buont yn teithio'n helaeth yng Nghymru a hefyd yn Iwerddon.
===Llydaw===
Yn 1977 rhyddhawyd record hir arall, Rhwng Saith Stôl (Sain, 1977), a threfnwyd taith i Lydaw (gyda Dafydd Iwan). Ar ôl y recordiad hwn gadawodd Alun 'Sbardun' Huws er mwyn canolbwyntio ar gyfeilio i Tecwyn Ifan, a hefyd Mei Jones er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel actor a dramodydd. Yn sgil profiadau Iwerddon a Llydaw, penderfynwyd canolbwyntio fwyfwy ar ganu gwerin traddodiadol. Trefnwyd taith arall gyda Dafydd Iwan – trwy Gymru y tro hwn – ac aed ati i recordio casgliad o ganeuon gwerin, gan anelu at farchnadoedd Celtaidd a thu hwnt yn ogystal â Chymru. Y canlyniad oedd rhyddhau Torth o Fara (Sain, 1978) – 17 o ganeuon, gyda phwyslais cyfartal ar y lleisiol a'r offerynnol. Teithiodd y grŵp i Lydaw eto dros yr haf. Yn sgil yr holl brysurdeb trafodwyd y posibilrwydd o droi'n broffesiynol, ond ni ddigwyddodd hynny.
Yn 1979 Mynediad am Ddim oedd un o brif atyniadau Gŵyl Guipavas ger Brest. Yn y cyfnod hwn recordiwyd y cyntaf o ddau gasét i'r Mudiad Ysgolion Meithrin, casgliad o hwiangerddi a chaneuon eraill i blant bach o'r enw Hwyl Wrth Ganu (dilynodd ail gasét, Hwyl yr Ŵyl, ar thema'r Nadolig, yn 1986).
===Pen-blwydd===
Yn 1992, i ddathlu pen-blwydd y band yn ddeunaw oed (a oedd yn cyd-daro â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth), rhyddhawyd casgliad o'r caneuon mwyaf poblogaidd, a chyhoeddwyd yr un pryd lyfr lloffion, Digon Hen i Yfed, yn olrhain hanes y grŵp. Yna, yn 1993, cyhoeddwyd tâp fideo o berfformiad byw o flaen cynulleidfa yn stiwdio Barcud, Caernarfon, Dyma Mynediad am Ddim. Yn ystod yr 1980au hwyr a'r 1990au yr uchafbwyntiau oedd perfformio yng Ngŵyl y Cnapan bum gwaith, ac yna, yn 2003, ymddangos gerbron torf o tua 8,000 yng Ngŵyl y Faenol ger Bangor.
===2010au===
Yn 2010 cyhoeddwyd cryno-ddisg arall, ''Hen, Hen Bryd'' a gynhwysai draciau newydd.
==Disgyddiaeth ==
{{Prif|Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Mynediad am Ddim}}
*''Mynediad am Ddim'' (Sain 1021M, 1975)
*''Mae'r Grwp yn Talu'' (Sain 1064M, 1976)
*''Rhwng Saith Stôl'' (Sain 1103M, 1977)
*''Torth o Fara'' (Sain 1137M, 1978)
*''Hen, Hen Bryd'' (Sain SCD 2604, 2010)
Casgliad:
*''1974–1992'' (Sain SCD2003, 1992)
==Cyfeiriadau==
|