Y Geiriadur Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Geiriadur Cymraeg]] ydy '''''Y Geiriadur Mawr''''' (teitl llawn: ''Y Geiriadur Mawr[:] The Complete Welsh-English English-Welsh Dictionary''). Casglwyd deunydd y [[geiriadur]] gan H. Meurig Evans a W. O. Thomas, gyda'r Athro [[Stephen J. Williams]] yn olygydd ymgynghorol. Mae'n eiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg sydd wedi cael ei ad-argraffu sawl gwaith ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1958.
 
==Hanes y geiriadur==
Llinell 7:
 
==Cynnwys==
Rhennir y geiriadur yn ddwy brif ran,: Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg. Yn y rhan gyntaf ceir geiriau Cymraeg gyda'u cyfystyron yn Gymraeg a Saesneg a gwybodaeth ramadegol gryno. Yn yr ail ran ceir geiriau Saesneg gyda'u cyfystyron yn Gymraeg. Yn ogystal, ceir rhestrau yn y ddwy iaith o enwau personol ac enwau lleoedd, ac enwau anifeiliaid, pysgod, adar, ffrwythau a blodau. Mae'r rhan Gymraeg yn cynnwys detholiad o eiriau hynafol (a nodir gyda seren) ond geiriadur cyfoes ydyw yn bennaf ac fe'i cyflwynir 'I werin Cymru'.
 
==Cyfeiriadau==