Tinitws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 1 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
Nid yw'n gwbl eglur yn union beth sy'n achosi tinitws, ond credir ei fod yn broblem gyda sut mae'r glust yn clywed sain a sut mae'r ymennydd yn ei dehongli.
 
Mae llawer o achosion yn gysylltiedig â cholli clyw sy'n cael ei achosi gan ddifrod i'r glust fewnol. Mae sŵn yn pasio o'r [[Y glust allanol|glust allanol]] i mewn i'r [[Y glust fewnol|glust fewnol]]. Mae'r clust mewnol yn cynnwys y [[cochlea]] a'r [[nerf clywol]]. Mae'r cochlea yn diwb troellog, sy'n cynnwys nifer fawr o gelloedd gwallt sensitif. Mae'r nerf clywedol yn trosglwyddo signalau sain i'r ymennydd.
 
Os bydd rhan o'r cochlea yn cael ei ddifrodi, bydd yn methu danfon gwybodaeth gyflawn i'r ymennydd. Gall yr ymennydd wedyn fynd ati i "chwilio" am arwyddion o rannau o'r cochlea sy'n dal i weithio. Gallai'r arwyddion hyn wedyn gael eu gorgynrychioli yn yr ymennydd, a gallai hyn achosi synau tinitws.