Historia Regum Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: eu:Historia Regum Britanniae; cosmetic changes
Llinell 5:
Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig [[Ynys Prydain]] o ddyfodiad [[Brutus|Brutus o Gaerdroia]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth y brenin [[Cadwaladr]] yn y [[7fed ganrif]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn.
 
== Cynnwys ==
Mae'r ''Historia'' yn cychwyn gyda disgrifiad blodeuog, haeddianol enwog, o Brydain fel "Yr Ynys Wen", ynys ffrwythlon ond anghyfanedd ar y dechrau "yn yr eigion gorllewinol rhwng Ffrainc ac Iwerddon", ac yn rhoi crynhoad o'i hanes a'i chyflwr cyfoes.
 
Yn yr adran gyntaf cawn hanes yr arwr [[Aeneas|Aeneas Ysgwydwyn]] o [[Caerdroia|Gaerdroia]], y ceir ei hanes gan [[Fyrsil]] yn yr ''[[Aeneid]]'', yn ymsefydlu yn yr Eidal ar ôl [[Rhyfel Caerdroia]]. Caiff ei ddisgynydd [[Brutus]] ei alltudio o Gaerdroia. Aiff ef a'i ddilynwyr i grwydro y [[Môr Canoldir]] ac, ar ôl cael gweledigaeth gan y dduwies [[Diana (mytholeg)|Diana]], mae'n hwylio i'r "Ynys Wen" sy'n cael ei henwi'n Brydain ar ei ôl (Prydain="gwlad Brutus" yn ôl Sieffre). Rhennir yr ynys yn dair teyrnas ar farwolaeth Brutus: caiff ei fab hynaf [[Locrinus]] deyrnas [[Lloegr]], mae [[Albanactus]] yn cael [[Yr Alban]] a [[Camber]] yn cael [[Cymru]] ([[Cambria]]).
 
Mae'r ail adran yn rhestr ddigon ddiflas, foel, ac anysbrydoledig ar y cyfan o frenhinoedd ffug y Brydain Geltaidd, ond mae'n cynnwys rhai hanesion difyr, wedi eu codi o draddodiad brodorol yn ôl pob tebyg, e.e. am y brenin [[Llŷr]] yn rhannu ei deyrnas rhwng ei tair merch (hanes a ddefnyddwyd gan [[William Shakespeare|Shakespeare]] yn ei ddrama ''[[King Lear]]''), a [[Dyfnwal Moelmud]] a'i feibion [[Beli|Belinus]]nus a [[Brennus|Brennius]], sy'n ymladd rhyfel cartref cyn mynd yn eu blaen i ymosod ar ddinas [[Rhufain]] (seiliedig ar hanes [[Brennus]] yn cipio Rhufain yn 390 CC).
 
Daw'r llyfr yn nes at hanes go iawn wrth disgrifio glaniad [[Iwl Cesar]] ym Mhrydain a gwrthsafiad [[Caswallon|Cassibelanus]], a hefyd hanes [[Cynfelin]] ([[Cunobelinus]], sail ''[[Cymbeline]]'' Shakespeare) ac eraill.
Llinell 18:
Gyda Arhur yn farw dychwela'r Saeson ond yn fwy nerthol nag erioed. Mae'r Brythoniaid yn parhau i'w hwrthwynebu ond er gwaethaf ymdrechion brenhinoedd dewr maent yn colli tir. Mae'r hanes yn gorffen gyda marw [[Cadwaladr]], a'r Saeson yn hawlio penarglwyddiaeth Prydain.
 
== Cefndir a dylanwad ==
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd. Tua blwyddyn neu ddwy ar ôl hynny cyhoeddwyd yr ''Historia Regum Britanniae'', ond mae'n debyg fod Sieffre wedi bod yn ei ysgrifennu am rai blynyddoedd cyn hynny.
 
Llinell 25:
Bu dylanwad gwaith Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Ymddengys mai fel dilyniant i'r ''Historia Regum Britanniae'' y bwriadwyd [[Brut y Tywysogion]]. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu y ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y [[Canol Oesoedd]] gyda phrifddinas yng [[Caerllion|Nghaerllion-ar-Wysg]] ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o [[sifalri]]. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol [[Theophilus Evans]] ''Drych y Prif Oesoedd''.
 
== Llyfryddiaeth ddethol ==
Ceir nifer fawr o lyfrau ar yr ''Historia'', yn olygiadau ysgolheigaidd, cyfeithiadau ac astudiaethau. Detholiad yn unig a geir yma.
=== Y testun a chyfieithiadau ===
* Henry Lewis (gol.), ''Brut Dingestow'' (Caerdydd, 1942)
* Brynley F. Roberts (gol.), ''Brut y Brenhinedd'' (Dulyn, 1984)
Llinell 38:
* A. Griscom and J. R. Ellis, ed., ''The Historia regum Britanniæ of Geoffrey of Monmouth with contributions to the study of its place in early British history'' (London, 1929)
 
=== Astudiaethau ===
* A. O. H. Jarman, ''Sieffre o Fynwy'' (Caerdydd, 1966).
* Brynley F. Roberts. "Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd". Yn ''The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature'' gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
Llinell 57:
[[en:Historia Regum Britanniae]]
[[es:Historia Regum Britanniae]]
[[eu:Historia Regum Britanniae]]
[[fr:Historia regum Britanniae]]
[[ga:Historia Regum Britanniae]]