William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gŵr o Fôn sydd wedi ei anrhydeddu a’r fedal Croes Victoria yw '''William Williams''' – llongwr ac un o feibion Amlwch, Ynys...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
Erbyn [[Ebrill]] [[1917]], yr oedd [[llongau tanfor]], (''submarines'' neu ''U-boats'') [[yr Almaen]] wedi suddo miloedd o dunelli o longau masnach Prydain – dros 880,000 tunnell mewn un mis. Golygai hynny fod anghenion sylfaenol bywyd yn dechrau mynd yn brin ac nid oedd llywodraeth y dydd wedi llawn sylweddoli peryglon y llongau tanfor ac felly ddim yn gallu ymateb iddynt.
Wedi hir bendroni, penderfynwyd defnyddio llong – sgwner dri mast o Ynys Môn - y Mary B. Mitchell, (wedi ei henwi ar ôl ffrind i’r perchennog o Gastell Lleiniog [[Penmon]]). Fel llong i gario [[llechi]] y’i bwriadwyd yn gyntaf ond cafodd ei gwerthu a’i haddasu fel iot i’r [[Arglwydd Penrhyn]] ac a gafodd £60 y mis am ei rhoi ar fenthyg i’r Nefi. Fe’i haddaswyd eto a’i hail enwi yn Q.8 i hwylio [[Bae Biscay]] a’r "Western Approaches" yn [[yr Atlantic]]. Yr oedd y capten a’r criw yn gwisgo eu dillad eu hunain rhag ofn i neb eu gweld a’u hamau o fod yn llong ryfel yn chwilio am sybmarîn. Ar 20 [[Mehefin]] [[1916]], ymosododd ar, ac ella suddo un o U boats yr Almaen. Heddiw, mae ei hangor i’w gweld ar y cei yn [[Kirkcudbright]], [[sir Dumfries]] a [[Galloway]] yn [[yr Alban]].
 
Llongau wedi eu haddasu oeddent i ymddangos yn ddigon diniwed ond yn berygl dros ben. Os byddai’r U-boat yn ymosod arni, byddai’r Q ship, oedd efo gynnau wedi eu cuddio ar y dec yn tanio ond yn gadael i bump o’r criw (y panic party) adael mewn cwch achub. Byddai yr U-boat yn dod yn nes i hawlio’u prae ac yna byddai pawb adawyd ar ôl ar y llong yn tanio ac yn ymosod ar y sybmarin.
 
Allan o dros ddau gant Q ship, a suddodd bymytheg o sybmarins, suddwyd pedwar deg pedwar ohonynt ond bu sôn am saith deg ymosodiad yn y Dispatches. Dim ond un sydd ar ôl erbyn heddiw a honno i’w gweld ar lan [[y Tafwys yn Llundain]] yn ymyl [[y Tŵr]] a [[Doc Santes Catherine]].
 
Capten mwyaf llwyddiannus y Q ships oedd Lieutenant Commander Gordon Campbell – oedd yn rhoi gorchymyn i’w griw gyflymu neu arafu ei long os oeddynt yn gweld torpido er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’n cael ei tharo gan y gelyn. Ar 17 [[Chwefror]] [[1917]] cafodd Q5 capten Gordon Campbell ei tharo gan dorpido o’r llong danfor U-83. Un aelod parhaol o’i griw oedd William Williams o Amlwch a dyfarnwyd i William y D.S.M. am ei ran yn yr achos. <ref>The London Gazette. 25 Ionawr 1917</ref>
 
==Marwolaeth==