William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 29:
Capten mwyaf llwyddiannus y Q ships oedd Lieutenant Commander Gordon Campbell – oedd yn rhoi gorchymyn i’w griw gyflymu neu arafu ei long os oeddynt yn gweld torpido er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’n cael ei tharo gan y gelyn. Ar 17 [[Chwefror]] [[1917]] cafodd Q5 capten Gordon Campbell ei tharo gan dorpido o’r llong danfor U-83. Un aelod parhaol o’i griw oedd William Williams o Amlwch a dyfarnwyd i William y D.S.M. am ei ran yn yr achos. <ref>The London Gazette. 25 Ionawr 1917</ref>
 
==H.M.S Pargust==
Llong nesaf Campbell oedd y llong 2,817 tunnell Vittoria efo fwy neu lai yr un criw. Newidiwyd ei henw i’r Snail ym Mawrth 1917 a gosod chwech gwn, 14 torpido a depth charges ar ei dec. Cafodd ei hailfedyddio eto i hwylio’r gogledd Atlantic fel yr [[H.M.S. Pargust]]. Ddiwedd mis Mai 1917, hwyliodd o [[Devonport]] i [[Queenstown]], yn [[Iwerddon|y Werddon]].
Ar 7 Mehefin 1917, am 8 o’r gloch y bore, ymosodwyd arni gan yr UC-29 a’i gadwodd efo twll deugain troedfedd yn ei hochr a’r engine room a’r boeleri yn llenwi efo dŵr môr. Difethwyd un cwch achub a lladdwyd un o’r criw.