William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32:
Llong nesaf Campbell oedd y llong 2,817 tunnell Vittoria efo fwy neu lai yr un criw. Newidiwyd ei henw i’r Snail ym Mawrth 1917 a gosod chwech gwn, 14 torpido a depth charges ar ei dec. Cafodd ei hailfedyddio eto i hwylio’r gogledd Atlantic fel yr [[H.M.S. Pargust]]. Ddiwedd mis Mai 1917, hwyliodd o [[Devonport]] i [[Queenstown]], yn [[Iwerddon|y Werddon]].
Ar 7 Mehefin 1917, am 8 o’r gloch y bore, ymosodwyd arni gan yr UC-29 a’i gadwodd efo twll deugain troedfedd yn ei hochr a’r engine room a’r boeleri yn llenwi efo dŵr môr. Difethwyd un cwch achub a lladdwyd un o’r criw.
 
Er gwaethaf y twll yn ei hochr, mentrodd Campbell orchymyn i’r panic party adael ei long a dweud wrth un o’r swyddogion am wisgo côt o eiddo Campbell i dwyllo’r gelyn. Er mwyn i’r gelyn feddwl eu bod wedi torri eu calonnau, aeth un o’r criw â pholi parrot efo fo mewn cawell i’r cwch achub. Fel oedd honno yn gadael, sylwodd Campbell ar beriscôp y sybmarin tua 400 llath i ffwrdd. Ymhen hanner awr cododd y sybmarin i’r wyneb efo’r bwriad o danio a suddo’r Pargust. Yn ystod yr hanner awr hir yna, bu William Williams, er gwaethaf anafiadau yn sefyll ar ddec y Pargust a’i gefn yn erbyn ochr cwt pren oedd yn cuddio un o’r gynnau mawr. Pe bai hwnnw wedi ei weld, byddai UC 29 wedi eu chwythu o’r dwr yn llawer cynt. Am saith munud ar hugain i naw, bu brwydr eithriadol o danllyd am bedwar munud rhwng y ddwy long. Yr oedd rhai o’r Almaenwyr am roi i fyny ond golchwyd hwy oddi ar ddec y sybmarîn. Suddodd honno ger goleudy Inishtearaght am 8.40a.m. Collodd 23 aelod o’i chriw, achubwyd dau. Aethpwyd a’r Pargust i Queenstown wedi ei difrodi tu hwnt i unrhyw rîpâr.
 
Pan glywodd yr Awdurdodau am beth oedd wedi digwydd, penderfynwyd rhoi medal Croes Fictoria i’r llong am "...''an act of collective gallantry''..." – y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd. Yr oedd gan Campbell Groes Fictoria yn barod a gwrthododd unrhyw fedal gan awgrymu y dylai aelodau o’i griw gael eu hurddo.
Yn y London Gazette Gorffennaf 20, 1917, gwelwyd y pennawd: