William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 40:
’Lt. Stuart and Seaman Williams were selected by the officers and ship's company respectively of one of His Majesty's ships to receive the VC under Rule 13 of the Royal Warrant dated January 1856...’ <ref>The London Gazette. 20 Gorffennaf 1917</ref>
 
==MarwolaethYn ol i Amlwch==
 
Dyfarnwyd tair medal ar hugain arall i wahanol aelodau o’r criw.
Bu farw ar 23 Hydref [[1965]] yng [[Caergybi|Nghaergybi]], yn 75 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gyhoeddus Amlwch. Gellir gweld ei fedalau yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]].
Daeth Williams i Amlwch am ychydig ddyddiau o seibiant a chafwyd diwrnod o ddathlu yn y dref am ei fod wedi ennill y DSM ychydig ynghynt. Gan mor gyfrinachol oedd ei waith ar y Q ship, nid chaniatawyd dweud hanes y Victoria Cross.
 
Trefnodd Cyngor y Dref barti yn Amlwch Ddydd Gwener, 29 Mehefin, 1917 i dalu gwrogaeth i William wedi iddo fod ym [[Plas Buckingham|Mhalas Buckingham]] yn cael ei urddo gan y brenin. Cyflwynwyd 'Anerchiad Goreuredig' iddo ynghyd ag oriawr aur 'ysblennydd' i gydnabod ei ddewrder. Yr oedd strydoedd y dref wedi eu haddurno â baneri a'r trigolion yn llenwi'r palmantau i gyfarch eu harwr mewn gorymdaith o'r orsaf reilffordd i Sgwâr Dinorben. Cyflwynwyd y sgrôl iddo gan y cadeirydd a chyflwynwyd yr oriawr aur gan Mrs. W.T.Jones gyda'i dymuniadau gorau am hir oes i wasanaethu ei wlad. Dan arweiniad Mr. Hevin Jones, canodd plant yr ysgol nifer o ganeuon gwladgarol.
 
Diolchodd William am y croeso a'r anrhegion. Oherwydd cyfrinachedd ei waith eglurodd na allai grybwyll y rheswm pam iddo gael ei anrhydeddu gan y brenin ond mynegodd ddiolch o waelod calon am y modd yr oedd ei gyfeillion wedi ei groesawu yn ôl gartref. Dadorchuddiwyd tabled ar fur Ysgol Borth Amlwch i gofio dewrder un o’r cyn ddisgyblion. Yn ddiweddarach, cafwyd seremoni arall yn Neuadd y Dref, Llangefni ac ymysg anrhydeddau a rhoddion eraill cyflwynwyd gwerth £150 o ’War Bonds’ iddo gan Syr Richard Williams Bulkeley.
 
Bu yr ychydig ddyddiau nesaf yn rhai anhygoel o brysur i William gan iddo gael ei alw i Balas Buckingham eilwaith. Eto, oherwydd cyfrinachedd ei waith, ychydig o wybodaeth a ddatgelwyd yn gyhoeddus pan ddyfarnwyd V.C. iddo ond cafodd ei rieni fynd i'r Palas i'w weld yn cael ei urddo â'r fedal.
Pan fyddai plant yn gofyn pam iddo gael y VC, ei ateb fyddai,
‘Am fod yn hogyn da i mam.’
 
Gwnaed cais arbennig gan bennaeth Ysgol y Cyngor, Amlwch - W.T.Jones i'r Awdurdod Addysg gysidro comisiynu portread o William i'w arddangos yn yr ysgol. Pasiwyd y mater i is-bwyllgor a chafwyd ar ddeall iddynt hwy a'r Pwyllgor Addysg fod yn cymeradwyo’r syniad.
 
Ar ddiwedd y rhyfel, bum niwrnod cyn y Cadoediad (6 Tachwedd 1918), rhyddhawyd Leading Seaman William Williams o'r Cefnlu Llyngesol Brenhinol oherwydd poen cefn parhaol a phroblemau clyw oherwydd iddo dreulio cymaint o amser yn sŵn y gynnau mawr. Yn dilyn hyn, ymunodd ag Adran Diriogaethol y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol a dyna pam fod gŵr a heli yn ei waed i'w weld mewn ambell ddarlun yn gwisgo lifrai milwr. Wedi dychwelyd i Fôn bu'n gweithio fel aelod o griw yr Eilian - sgwner dri mast o Amlwch, ymysg llongau eraill ac fel un o weithwyr y lan i’r L.N.E.R. yng [[Caergybi|Nghaergybi]] hyd nes i salwch orfodi ei ymddeoliad.
 
==Caergybi==
Treuliodd William weddill ei oes yng Nghaergybi. Bu'n byw yn Stryd Groes (Cross Street). Priododd â Elizabeth Jane a chawsant un ferch - Betty. Wedi marwolaeth Elizabeth Jane o'r diciáu yn [[1930]]; ail-briododd â Annie Hanlon (gwraig weddw) a oedd yn fam i un ferch - Eileen Usher Hanlon. Cofir amdano, hefyd, fel un o sefydlwyr y gangen leol o'r Lleng Brydeinig a chariwr y faner. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fyw yn 31 Stryd yr Orsaf (Station Street). Sefydlodd fusnes gwerthu [[glo]] ond yr oedd yr heli yn ei waed ac er nad i’r môr yr aeth, treuliodd weddill ei oes nepell ohono. Ymysg ei ddiddordebau oedd gwneud llongau mewn potel - er, nid oes gan y teulu sy'n weddill yr un esiampl o'i waith.
 
==Marwolaeth==
Bu farw ar 23 Hydref [[1965]] yng [[Caergybi|Nghaergybi]], yn 75 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gyhoeddus Amlwch. Gellir gweld ei fedalau yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]].
 
Enwyd stad o dai yn y dref yn Stad William Williams VC i’w goffau.