William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
==Hanes==
 
Un o [[Porth Amlwch|Borth Amlwch]] a gafodd ei eni ar 5 [[Hydref]], [[1890]] oedd Williams– un o chwech o blant i Richard Williams, pysgotwr lleol ac i Anne, ei wraig. Yr oedd y teulu yn byw yn Upper Sua Street yn wreiddiol a wedyn yn Well Street. Pan adawodd William yr ysgol aeth, fel llawer iawn o hogai’r Borth i’r môr. Bu’n hwylio ar ddwy chwaer long - [[y Cymri]] a’r [[Meyrick]] – sgwner haearn a’r llong fwyaf i’w hadeiladau yn iard longau [[William Thomas]] ac a lansiwyd ar 4 [[Ionawr]], [[1904]]. Bu Williams yn [[De America|Ne America]]; gwelodd y [[Rio Grande]] dair gwaith cyn dychwelyd i Amlwch a liwtio efo’r [[Royal Naval Reserve]] ar 29 [[Medi]] [[1914]] fel llongwr/ saethwr. <ref>A Curious Place. B.Hope. Bridge Books 1994</ref>
 
Cafodd ei alw i wasanaethu ar 2 Hydref, 1914 ac yn ystod ei gyfnod efo’r RNR dangosodd ‘wrhydri anhygoel a dewrder’ a dyna pam iddo gael ei urddo gan y [[brenin George]] efo’r fedal. William Williams oedd yr un enillodd y nifer fwyaf o fedalau o bawb ym [[Prydain|Mhrydain]] yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Dyfarnwyd iddo:
Llinell 16:
* Medal y Coroni [[1953]].
 
Mae’r ffaith iddo ennill y tair cyntaf o fewn llai na chwe mis i’w gilydd yn dweud llawer am ei gymeriad a’i wrhydri.
 
==Llongau tanfor==