Colum Cille: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: eu:Kolunba Ionakoa
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: tl:Columba; cosmetic changes
Llinell 1:
Roedd '''Colum Cille''', neu '''Sant Columba''' (c.[[520]] - [[5 Mehefin]], [[597]]), yn gennad [[Cristionogaeth|Cristnogol]], yn awdur yn yr iaith [[Lladin|Ladin]], yn sefydlydd [[Mynachlog|mynachlogydd]] ac un o'r seintiau pwysicaf yr [[Eglwys]] yn [[Iwerddon]], a aned yn [[Gartan]], [[Donegal]].
 
== Ei fywyd cynnar ==
[[Delwedd:CathachOfStColumbaInitialQ.jpg|250px|bawd|Llythyren '''Q''' agoriadol o'r ''Cathach Columba'']]
Ystyr ei enw yw "Colomen yr Eglwys", ''Columba'' yn Lladin. Ganed Colum Cille tua 520, yn aelod o deulu uchelwrol yr Uí Néill yng ngogledd Iwerddon. Roedd ei dad Fedlimid yn un o orwyr Niall Noigiallach, sefydlydd y llinach. Cafodd Colum Cille ei fedyddio yn Criamthann ond pan aeth yn fynach rhoddwyd iddo'r enw ''Columba'' ("Colomen yr Eglwys") yn Lladin.
 
== Ei waith cenhadol ==
Yn [[546]] sefydlodd fynachlog [[Derry]]. Yn ddiweddarach sefydlodd fynachlogydd [[Durrow]] a [[Kells]] yn ogystal. Tua'r flwyddyn [[565]] aeth gyda mintai fach o ddisgyblion i ogledd [[yr Alban]] ar genadwriaeth i droi'r [[Pictiaid]] i'r ffydd newydd. Tra yno sefydlodd fynachlog [[Iona]] ar ynys fechan yn yr [[Hebrides]] (Ynysoedd Heledd). Cafodd ei gladdu yn Iona yn 597 a'i addoli wedyn fel nawddsant yr Alban.
 
== Ffynonellau am ei fywyd ==
Cofnodir ei waith a'i fywyd yn y [[Buchedd|fuchedd]] Ladin y ''[[Vita Columbae]]'' gan [[Adamnán]], yng ngwaith y mynach [[Beda]] ac yn yr ''[[Amra Choluim Chille]]'', mawl mydryddol a ysgrifenwyd yn fuan wedi ei farwolaeth. Mae buchedd Ladin ddiweddarach, o Iwerddon, ar glawr hefyd.
 
== Ei waith llenyddol ==
Yn ôl hen draddodiad, dilys efallai, Colum Cille yw awdur y gyfres o gerddi Lladin ''Altus Prosator''. Dywedir iddo gymryd saith mlynedd i'w chyfansoddi, mewn cell dywell heb oleuni, fel penyd am ei falchder. Mae traddodiad arall yn honni ei fod wedi'i ysgrifennu yn Iona, yn sydyn iawn, wrth falu ŷd yn felin y fynachlog.
 
Yn ôl traddodiad Colum Cille oedd y copïydd a ysgrifennodd y llawysgrif bwysig ''[[Cathach Sant Columba]]'' (tua dechrau'r [[7fed ganrif]]).
 
== Llyfryddiaeth ==
*M.O. Anderson (gol.), ''Adamnán's Life of Columba'' (Rhydychen, 1991)
*M.Herbert, ''Iona, Kells and Derry'' (Rhydychen, 1988)
Llinell 49:
[[ru:Колумба]]
[[sv:Columba (missionär)]]
[[tl:Columba]]
[[uk:Святий Колумбан]]