William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 20:
==Llongau tanfor==
 
Erbyn [[Ebrill]] [[1917]], yr oedd [[Llong danfor|llongau tanfor]], (''submarines'' neu ''U-boats'') [[yr Almaen]] wedi suddo miloedd o dunelli o longau masnach Prydain – dros 880,000 tunnell mewn un mis. Golygai hynny fod anghenion sylfaenol bywyd yn dechrau mynd yn brin ac nid oedd llywodraeth y dydd wedi llawn sylweddoli peryglon y llongau tanfor ac felly ddim yn gallu ymateb iddynt.
Wedi hir bendroni, penderfynwyd defnyddio llong – sgwner dri mast o Ynys Môn - y Mary B. Mitchell, (wedi ei henwi ar ôl ffrind i’r perchennog o Gastell Lleiniog [[Penmon]]). Fel llong i gario [[llechi]] y’i bwriadwyd yn gyntaf ond cafodd ei gwerthu a’i haddasu fel iot i’r [[Arglwydd Penrhyn]] ac a gafodd £60 y mis am ei rhoi ar fenthyg i’r Nefi. Fe’i haddaswyd eto a’i hail enwi yn Q.8 i hwylio [[Bae Biscay]] a’r "Western Approaches" yn [[yr Atlantic]]. Yr oedd y capten a’r criw yn gwisgo eu dillad eu hunain rhag ofn i neb eu gweld a’u hamau o fod yn llong ryfel yn chwilio am sybmarîn. Ar 20 [[Mehefin]] [[1916]], ymosododd ar, ac ella suddo un o U boats yr Almaen. Heddiw, mae ei hangor i’w gweld ar y cei yn [[Kirkcudbright]], [[sir Dumfries]] a [[Galloway]] yn [[yr Alban]].