William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 1:
Gŵr o [[Ynys Mon|Fôn]] sydd wedi ei anrhydeddu a’r fedal [[Croes Victoria]] yw '''William Williams''' – [[llongwr]] ac un o feibion [[Amlwch]], Ynys Môn.
 
==HanesMedalau==
 
Un o [[Porth Amlwch|Borth Amlwch]] a gafodd ei eni ar 5 [[Hydref]], [[1890]] oedd Williams– un o chwech o blant i Richard Williams, pysgotwr lleol ac i Anne, ei wraig. Yr oedd y teulu yn byw yn Upper Sua Street yn wreiddiol a wedyn yn Well Street. Pan adawodd William yr ysgol aeth, fel llawer iawn o hogai’r Borth i’r môr. Bu’n hwylio ar ddwy chwaer long - [[y Cymri]] a’r [[Meyrick]] – sgwner haearn a’r llong fwyaf i’w hadeiladau yn iard longau William Thomas ac a lansiwyd ar 4 [[Ionawr]], [[1904]]. Bu Williams yn [[De America|Ne America]]; gwelodd y [[Rio Grande]] dair gwaith cyn dychwelyd i Amlwch a liwtio efo’r [[Royal Naval Reserve]] ar 29 [[Medi]] [[1914]] fel llongwr/ saethwr. <ref>A Curious Place. B.Hope. Bridge Books 1994</ref>