Wassily Kandinsky: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 30:
Yn ei ddatblygiad tuag at waith cwbl haniaethol, cafodd Kandinsky ei ddylanwadu gan yr hanesydd celf Wilhelm Worringer a'i waith ''Abstraktion und Einfühlung (Haniaeth ac Empathi)'', 1908 yn dadlau nad oedd yr hierarchaeth arferol o werthoedd, yn seiliedig ar y deddfau'r [[Dadeni]] bellach yn ddilys wrth ystyried y gelf o ddiwylliannau eraill.<ref>http://db-artmag.com/en/56/feature/spiritual-intoxication-sebastian-preuss-on-wilhelm-worringer/</ref>
 
Fel yr arlunydd haniaethol o'r mudiad [[De Stijl]], [[Piet Mondrian]] roedd Kandinsky hefyd yn ymddiddori yn [[Theosoffi]], athroniaeth a oedd yn boblogaidd ar y pryd ymhlith rhai arlunwyr a deallusion. Sefydlwyd gan Helena Petrovna Blavatsky ar ddiwedd y 19eg canrif roedd y mudiad Theosoffi yn credu bod gwirionedd wedi'i guddio y tu ôl i'r wyneb ac felly'n darparu rhesymeg amlwg i gelfyddyd haniaethol.<ref>http://www.radford.edu/rbarris/art428/kandinskysabstraction.html</ref>
Ym 1913 arddangosodd Kandinsky y darlun ''Byrfyfyr (Improvisation) 27 (Gardd Gariad II)'' yn yr Armory Show yn [[Efrog Newydd]] ac fe welir yn glir ei symudiad i greu darlun haniaethol gydag elfennau'r darlun wedi'u symleiddio i'w siapiau craidd.