Newidyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
cysonyn
Llinell 1:
Mewn [[mathemateg]] elfennol, mae '''newidyn''' yn symbol, (llythyren yr [[wyddor]], fel arfer) sy'n cynrychioli rhif o'r enw 'gwerth y newidyn', sydd yn rhif mympwyol (''arbitrary'') heb ei bennu'n llawn, neu'n anhysbys. Mae cyfrifo algebraidd gyda newidynnau fel pe baent yn rhifau penodol yn caniatáu i ni ddatrys ystod o broblemau mewn un cyfrifiad. Enghraifft nodweddiadol yw'r [[fformiwla cwadratig]], sy'n caniatáu i ni ddatrys pob hafaliad cwadratig trwy amnewid dim ond gwerthoedd rhifol cyfernodau'r hafaliad a roddir i'r newidynnau sy'n eu cynrychioli. Y term cyferbyniol iddo yw [[cysonyn]].
 
Mae'r cysyniad o newidyn hefyd yn hanfodol mewn [[calcwlws]]. Er enghraifft, mae'r [[ffwythiant]] {{math|1=''y'' = ''f''(''x'')}} yn cynnwys dau newidyn, {{math|''y''}} a {{math|''x''}}, sy'n cynrychioli gwerth ac ymresymiad y ffwythiant yn y drefn honno.