Plinius yr Hynaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: li:Plinius d'r Owwere
ffynonellau
Llinell 6:
 
Ymunodd â'r fyddin a gwasanaethodd dan [[Corbulo]] yn nhalaith [[Germania Inferior]] yn [[47]], gan gymeryd rhan yn yr ymgyrch yn erbyn llwyth y [[Chauci]]. Bu yn [[Sbaen]] a [[Gâl]], lle dysgodd ystyr nifer o eiriau yn yr [[ieithoedd Celtaidd]]. Dan yr ymerawdwr
[[Nero]] roedd yn byw yn Rhufain, gan weithio ar ei lyfr ''Hanes y Rhyfeloedd Germanaidd''. Defnyddiwyd hwn fel ffynhonnell gan [[Tacitus]] yn ei ''Annales'' ac yn ôl pob tebyg roedd yn un o brif ffynhonellauffynonellau ''Germania'' Tacitus. Ysgrifennodd hefyd ar ramadeg a rhethreg, gan gyhoeddi ''Studiosus'' ac yna ''Dubii sermonis'' yn [[67]].
 
Pan ddaeth ei gyfaill [[Vespasian]] yn ymeradwr, bu'n gwasanaethu fel [[procurator]] yn nhalaith [[Gallia Narbonensis]] yn [[70]] ac yn [[Hispania Tarraconensis]] yn [[73]], Ymwelodd a thalaith [[Gallia Belgica]] yn [[74]]. Ysgrifennodd hanes ei gyfnod ei hun mewn 31 llyfr, gyda'r bwriad y byddai'n cael ei gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth. Cafodd hwn ei ddefnyddio gan Tacitus, [[Suetonius]] a [[Plutarch]]. Ei waith mwyaf oedd y ''Naturalis Historia'', [[gwyddoniadur]] oedd yn crynhoi llawer o wybodaeth yr oes.