Dyfrbont Pontcysyllte: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun gan Les
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Golygu cyffredinol (manion), replaced: i fewn → i mewn using AWB
Llinell 7:
Adeiladwyd y ddyfrbont gan [[Thomas Telford]] a [[William Jessop]], mae'n 1,007 [[troedfedd]] o hyd, 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 [[modfedd]] o ddyfnder. Mae wedi ei wneud o gafn [[haearn bwrw]] wedi ei ddal 126 troedfedd uwchben yr afon gan 19 colofn o waith maen gwag. Mae gan bob bwa rychwant o 53 troedfedd. Roedd llawer yn amheus o'r adeiladwaith, ond roedd Telford yn hyderus: roedd wedi adeiladu o leiaf un draphont i'r cynllun hwn ynghynt (sef Traphont [[Longdon-on-Tern]]) ar [[Camlas Amwythig|Gamlas Amwythig]], sydd yn dal i'w gweld yno heddiw yng nghanol cae, er y gadawyd y gamlas flynyddoedd yn ôl.
 
Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn [[Ffowndri Plas Kynaston]], a thaflwyd pob uniad cynffonnog i fewnmewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddwyd gwlân Cymreig wedi ei drochi mewn [[siwgr]] berwedig, ac wedyn eu selio â [[Plwm|phlwm]]. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.
 
Yn rhan o gamlas a elwid yn wreiddiol yn [[Camlas Llangollen|Camlas Ellesmere]], roedd yn un o'r campweithiau [[peirianneg sifil]] cyntaf a gyflawnwyd gan y peiriannwr sifil enwog [[Thomas Telford]] (dan oruchwyliaeth y peiriannwr camlesi mwy profiadol, [[William Jessop]]). Cyflenwyd yr haearn gan William Hazeldine o'i ffowndri yn [[Amwythig]] a gerllaw yng [[Cefn Mawr|Nghefn Mawr]]. Agorwyd y ddyfrbont ar [[26 Tachwedd]] [[1805]], ar ôl cymryd tua deng mlynedd a £47,000 i'w dylunio a'i hadeiladu.