Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Golygu cyffredinol (manion), replaced: gyda cl → gyda chl, gyda ce → gyda che, cymeryd → cymryd , ag eithrio → ac eithrio using AWB
Llinell 80:
 
==== Y Diwygiad Mawr ====
Mae'n annheyg y cafodd y diwygiad protestannaidd llawer o effaith ar grefydd yn Nhywyn. Mae'n anodd dychmygu beth a fuasai'r effaith newid iaith addoliad o Ladin i Saesneg ar boblogaeth uniaith Gymraeg. Newid a fuasai'n cael mwy o ddylanwad oedd cyfieithu y Llyfr Gweddi yn 1567 a'r Beibl yn 1588 i'r Gymraeg <ref name=":2" /> a gyda dyfodiad Gruffudd ap Morgan, ficer oedd yn byw yn byw yn y plwyf o 1570-1606<ref name=":4" />, cafodd y werin cyfle i addoli yn eu iaith eu hun. Parhaodd yr arferiad o benodi rheithoriaid nad oeddent yn byw yn eu plwyfi ac aeth yr eglwys yn llai canolig i gred y werin. Cedwyd at hen draddodiadau ysbrydol ac ofergoelion. "Glynodd y pobl gyffredin am ganrifoedd wrth lawer o elfennau'r Hen Ffydd." <ref name=":2" /> Parhaont i cynnaugynnau canhwyllau a gweddïo i'r saint ac yn Nhywyn buasai'r cof am [[Cadfan]] a'i dylwyth a pharch at ei ffynnon fel lle santaidd oedd yn iachusol wedi aros fel dylanwadau cryf.
 
==== Dirywiad ac adnewyddiad yr eglwys ====
Llinell 102:
==== Draenio Corsydd y Dysynni ====
[[Delwedd:Ffosydd yn Aber y Dysynni.jpg|bawd|Ffosydd yn aber y Dysynni]]
Pan etifeddodd Edward Corbet Ynysymaengwyn yn 1782, dechrauodd draenio y darn o'r corstir oedd yn perthyn i'r ystad. Rhwng 1788 a 1784 newidiodd y gorstir i dir oedd yn cynhyrchu gwair, trwy cloddio ffosydd a thrwy lledu calch. Cedwid y cost yn isel trwy dal i caniatáuganiatáu i'r werin parhau i torri mawn, cyhyd ag yr oeddent yn torri yn union ble dewisodd ef; i ddyfnder a penodwyd ganddo ef a gan cadw yr ochrau yn syth. Fel hyn bu yn arbed costau talu gweithwyr i agor y ffosydd.<ref name=":4" />
 
[[Delwedd: Y Clawdd Swnd.jpg|bawd|Y Clawdd Swnd]]
[[Delwedd:Tir 2 medr islaw'r Dysynni.jpg|bawd|Tir 2 medr islaw aber y Dysynni]]
Yn gynnar yn y 19eg canrif trodd golygon Corbet tuag at y tiroedd comin. Yn 1805 honnodd dyn o'r enwJackson ei fod wedi darganfod glo ym Mron Biban a perswadiodd trigolion y dref i cyfnewidgyfnewid eu hawliau traddodiadol am addewid o lo rhad. Pasiwyd deddf i caniatáuganiatáu amgáu y tir comin yn 1805. Dechrauodd y gwaith draenio tua 1806. Adeiladwyd "Clawdd Swnd" yn 1809 oedd yn rhwystro'r llanw rhag cyraedd y Gwaliau ac ardal helaith o'r corstir.<ref name=":1" /> Wrth gwrs ni daeth o hyd i unrhyw lo. Honnodd Corbet nid oedd yn gwybod am y twyll ond gwnaeth elw fawr ohono.
 
==== Gweithwyr yn cydweithredu ====
Llinell 113:
 
==== Y corsydd deheuol ====
Bu Llyn y Borth, y pwll islaw ffermdy Penllyn yn enwog am frithyll hyd at 1850 pan sefydlodd y Felin Pair Mining Company gan tafyn gwastraff o'r mwyngloddio i mewn i'r afon Dyffryn Gwyn gan lladd hwyaid, gwyddau a cheffyl yn ogystal a physgod.<ref name=":1" /> Collasant y werin, oedd wedi arfer pysgota gyda cewyllchewyll yn yr afon, cyflenwad arall o fwyd. Adeiladwyd "Clawdd llanw" i rhwystro'r mor rhag lledu ar draws y gors a draeniwyd Llyn y Borth yn 1862.<ref name=":1" /> Rhannwyd y corsydd rhwng y ffermydd o gwmpas y llyn a dechreuasant ar y gwaith o draenio'r corsydd a gwella'r tir.<ref name=":8">Dyddiadur Edward Edwards 1873-1886, Archifdy Meirionnydd cyf. Z/M/3192/1</ref> Erbyn 1866 bu rhannau o'r cosdir yn addas at tyfu cnydau ond parhaodd y gwaith draenio tan o leiaf 1886.<ref name=":8" />
 
==== Cae Tir y Goron ====
Pan prynnodd Ynysymaengwyn gan John Corbett yn 1882 hawliodd ef y tir a rhoddwyd i'r goron fel ei eiddo ei hun.<ref name=":9" /> Honnodd fod neb wedi dweud iddo cyn iddo prynu fod y tir yn tir comin a rhoddwyd y tir i'r ystad fel rhodd. Amgaeodd y tir er gwaethf map o 1805 a'r tystiolaeth fod y plwyfolion wedi defnyddio y tir ers cyn cof ac roedd ganddynt hawliau hynafol.<ref name=":9" /> Nid oedd y werin yn deall sut oedd Mr Corbett, dyn cyfoethog, yn medru cymerid eu hawliau traddodiadol oddi wrthynt. Cymharodd gweithred [[Corbett]] yn anffafriol gyda rhoddion cyfoethogion i creugreu parciau at ddefnydd y werin mewn trefi mawr.<ref name=":1" />
 
=== Tref Tywyn ===
Llinell 146:
 
==== Gwrthwynebiad Corbet ====
Mae'n debyg fod gelyniaeth Edward Corbet tuag at Anghydffurfiaeth wedi peri i'r mudiad tyfu yn arafach ynNhywyn nag mewn llefydd eraill. Mae sawl hanes am ei gwrthwynebiad.<ref name=":1" /> Pan oedd Edward William, arweinydd y Methodistiaid cynnar, yn mynd o gwmpas y dref gyda clochchloch yn cyhoeddi cyfarfod, cymerodd Corbet y cloch o'i law ganfwrw ef ar ei foch. Cynnigiodd Edward William y foch arall iddo ond ni cafodd ei fwrw yr ail waith.<ref name=":1" /> Rhoddodd Corbet gorchymun i ysgraffwyr i peidio cludo pregethwyr Methodistaidd dros y Dysynni ger Rhydgarnedd. Gwrthododd un ohonynt cludo tri pregethwr ar draws y Dysynni.Cymerasant cwch a dechrau croesi a dilynodd hwy gan yr ysgraffwr. Tarodd ef y pregethwr cyntaf ar ei foch; gwnaeth yr un peth i'r ail. Trodd y trydydd ato gan dweud fod dau foch yn cael ei caniatàu yn yr Efengylau a dim mwy a rhoddodd y tri crasfa iddo. Dwedwyd fod gan yr ysgraffwr parch at y pregethwyr am gweddill ei fywyd.<ref name=":1" />
 
==== Datblygiad ====
[[Delwedd: Capel Bethel, Tywyn.jpg|bawd|Capel Bethel]]
Cafodd twf yr ysgolion cylchynol, oedd yn dysgu darllen Gymraeg i hybu darllen y Beibl, dylanwad yn Nhywyn fel ar draws Cymru.<ref name=":2" /> Cofrestrwyd yr ystafell ymgunnull uwchben Porth Gwyn ar gyfer pregethu yn 1795 a cynhaliwyd y Methodistiaid eu oedfaon cyntaf yno.<ref name=":1" /> Dechrauodd Ysgol Sul y Presbyteriaid yn 1802, yr un Weslaid yn 1807 a'r Annibynwyr yn 1813.<ref name=":15">The State of Education in Wales 1819, (adroddiad) Archifdy Meirionnydd (heb cyf.)</ref> Cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Sul Cymru yn Nhywyn yn 1810.<ref name=":12">Jones, M. 1929, Ychydig o hanes Eglwys Bethel, Tywyn, Wynn-Williams</ref> Adeiladodd y Presbyteriaid eu ail capel, Bethel, yn 1815 ac ac yn fuan wedyn cododd yr Annibynwyr capel Bethesda. Wrth i anghydffurfiaeth tyfu ailadeiladodd Bethel yn 1871 <ref name=":12" /> a Bethesda yn 1892. Roedd y Wesleiad yn cyfarfod yn yr hen capel yn ymyl Stryd y Nant tan 1882 pan agorwyd capel Ebeneser. Sefydlodd y Beddyddwyr yn 1885 mewn ystafell ger Gwesty'r Corbett. Cynhaliwyd dau bedydd y flwyddyn honno, yn y môr. Agorodd eu capel pressennol yn 1900.<ref name=":13">I.G.1960, The Baptist Church in Tywyn (pamffled) Archifdy Meirionnydd, (heb cyf.)</ref> Er gwaethaf yr holl bwyslais ar addysg Saesneg a'r agwedd gwawdlyd at y Gymraeg yn y 19eg canrif; llwyddodd y capeli nid yn unig i magu aelodau oedd yn deall eu ffydd ond hefyd i cynnalgynnal cymdeithas Cymraeg a'r gallu i darllen y Gymraeg.<ref>Evans, G. 1971, Aros Mae.., John Penry.</ref>
 
==== Darpariaeth Saesneg ====
Llinell 156:
 
==== Treth y Ddegwm ====
Gyda twf yn nifer yr anghydffurfwyr daeth cwyno yn erbyn hawl yr eglwys i degfed rhan o gynnyrch y tir i'w anterth yn ystod ail haner yr 1880au.<ref name=":2" /> Roedd nifer helaeth o anghydffurfwyr yn gwrthod talu ac ymateb yr awdurdodau oedd atalfaelu eiddo. Ym mhlwyf Tywyn gwrthododd un weddw unig talu, tan yr oedd pob peth oedd ganddi wedi mynd agac eithrio un mochyn.Pan aeth swyddogion y treth i gasglu'r ddegwm, ni cymerasant hwy yr anifail; efallai oherwydd presenoldeb torf o gannoed o bobl oedd wedi casglu. Dilynwyd y swyddogion y dorf o un le i'r llath, gan hwtian, sgrechian a chwythu cyrn nes dilynasant y swyddogion yn ôl at orsaf yr heddlu. Mewn cyfarfod o'r Anti Tithe League diolchodd yr arweinwyr am y synnwyr cyffredin a goddefgarwch yr oeddent wedi dangos ond gelwid y rhai oedd wedi bradychu'r achos yn llwfrgwn.<ref>Cambrian News, Erthygl 28.10.1938</ref>
 
==== Y plygain ====
Llinell 167:
 
==== Addysg elusennol ====
Rhwng colli'r clas yn 1284 a 1717 yr unig darpariaeth addysgol oedd naill i rhienni trosglwyddo beth bynnag addysg oedd ganddynt i'w plant neu trefniadau a gwnaed gan unigolion i cyflogigyflogi rhywun i dysgu medrau sylfaenol neu i teuloedd bonedd i anfon eu plant i ffwrdd am addysg. Yn 1717 rhoddodd Vincent Corbet tir gyda'r amod fod yr elw yn cael ei defnyddio i darparu ysgol elusennol yn y plwyf. Yn 1786 rhoddodd Lady Moyer o Lundain arian at yr un diben.<ref name=":1" /> Bu'n posibl i rhieni oedd yn gallu talu anfon eu plant at yr ysgol hon ond maen tramgwydd i nifer oedd addysg crefyddol a dysgwyd o safpwynt Anglicaniaid.
 
==== Ysgolion cylchynol ar ysgolion Sul ====
Llinell 182:
 
=== Y rheilffordd ===
Adeiladwyd y rheilffordd yn yr 1860au gyda'r cysylltiad o Dywyn i Fachynlleth yn cael ei gwblhau yn 1867.<ref>Drummond, I, 2015, Rails along the Fathew, Holne.</ref> Yn yr un blwyddyn cwblhaodd y "lein fach" i Abergynolwyn a chwareli llechi Nant Gwernol.yn haner olaf y 19ed canrif cafodd y dosbarth gweithiol dinesoedd mawr Lloegr yr hawl i cymerydgymryd gwyliau a tyfodd nifer yr ymwelwyr i Dywyn yn helaeth; ynghyd âr gwestai bach oedd yn darparu ar eu cyfer. Mynnodd rhai fod y rheilfordd wedi difetha awyrgych diarffordd ac arferion cyntefig y trigolion <ref name=":1" /> ond mae'r barn hwn yn anwybyddu dylanwad anghydffuriaeth.
 
===Rhodfa'r Mor===