Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Golygiad bychan
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Golygu cyffredinol (manion), replaced: ag eithrio → ac eithrio using AWB
Llinell 75:
Chwaraeodd tîm pêl-droed Wrwgwái eu gêm gyntaf ar [[16 Mai]] [[1901]] yn y brifddinas, Montevideo yn erbyn tîm cenelaethol yr Ariannin - yr Archentwyr enilloedd y gêm, 2 i 3. Hyd at 1916, chwaraewyd cyfanswm o 30 o gemau, pob un ond un yn erbyn yr Ariannin. Y flwyddyn honno chwaraewyd twrnament gyntaf pêl-droed [[Copa America]], gyda buddugoliaeth derfynol i Wrwgwai. Ni drechwyd y tîm cenedlaethol nes 1919 pan gollwyd i Brasil o 2 i 1.
 
Yn 1924, teithiodd y tîm cenedlaethol i [[Paris|Baris]] i gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Trechodd y tîm yr holl wrthwynebwyr Ewropeaidd gan ennill y fedal aur. Ail-adroddwyd y llwyddiant bedair blynedd yn ddiweddarach yn y Gemau Olympaidd yn Amsterdam ym 1928. Tîm Wrwgwai oedd tîm mwyaf llwyddiannus yr 1920au, agac eithrio timau proffesiynol Gwledydd Prydain oedd yn ynysig a gwrthod chwarae gemau rhyngwladol.
 
Yn sgîl y ddau fedal Olympaidd a gan fanteisio ar ganmlwyddiant annibyniaeth y wlad o [[Brasil|Frasil]], dewiswyd Wrwgwái i gynnal Cwpan y Byd cyntaf yn 1930. Parhaodd llwyddiant yr ''awyr glas'' wrth iddynt guro'r Ariannin o 4 i 2 yn y ffeinal.