Cilogram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 06:30, 19 Awst 2009
Mae Cilogram (neu Kilogram) yn Uned Safonol Rhyngwladol o Unedau (International System of Units, (SI, o'r Ffrangeg, Le Système International d’Unités) ac mae'n gydradd â'r Prototeip Rhyngwlad - gweler y llun ar y dde. Mae pob cilogram wedi'i safonni ar yr un yma a gedwir ym Mharis.
Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol cenedlaethol km, gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centimetr) pe bawn yn defnyddio cm.
Mae'r uned hwn (sef y cilogram) yn 2.20462262 pwys (yr hen bwysau 'Imperial'). Uned arferol dwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).
Lle
- ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'w fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
- m yw mâs cyfan y gwrthrych (wedi'w fesur mewn cilogramau)
- C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'w fesur mewn metrau ciwb)
Hanes
Ar 26 Mawrth 1791 danfonodd Ffrancwr o'r enw Charles Maurice de Talleyrand-Périgord lythyr at Lywodraeth Ffrainc yn galw am safoni y grefft o fesur. Pedwar diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn, sefydlodd y llywodraeth "Academy" a rhannwyd y gwaith gan greu unedau metrig sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.
Ar 7 Ebrill 1795 cyhoeddwyd yn ffrainc fod y gram yn hafal i "bwysau absoliwt cyfaint y dŵr sydd mewn ciwb 1cm wrth 1cm (un centimetr ciwb), a hynny ar dymheredd rhew.[1] Ond roedd diwydiant yn gweiddi am fesurau mwy na'r centimetr a'r gram. Sylweddolwyd hefyd fod pwysau rhew yn amrywio yn ddibynol ar nifer o ffactorau ac felly aethpwyd ati i greu prototeip mwy ymarferol na dŵr, a fyddai 1000 gwaith yn fwy na'r gram, sef y "kilogram". Yn yr un flwyddyn, aethpwyd ymlaen â'r gwaith o ddiffinio "litr".