Nunavut: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fa:نوناووت
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''Nunavut''' yn [[Taleithiau a thiriogaethau Canada|diriogaeth]] [[Arctig]] yng ngogledd [[Canada]], gyferbyn â [[Greenland]]. Mae nifer o'r bobl sy'n byw yno yn bobl [[Inuit]].
 
Ers refferendwm yn [[1995]], [[Iqaluit]] ("Frobisher Bay" gynt) ar [[Ynys Baffin]], yw'r brifddinas. Mae cymunedau eraill yn cynnwys canolfannau rhanbarthol [[Cilfach Rankin]] a [[Bae Cambridge]]. Mae Nunavut yn cynnwys hefyd [[Ynys Ellesmere]] i'r gogledd, yn ogystal â rhannau dwyreiniol a denheuol [[Ynys Victoria (Canada)|Ynys Victoria]] yn y gorllewin. Nunavut yw'r mwyaf o daleithiau a thiriogaethau Canada ond gyda'r boblogaeth leiaf o lawer, gyda dim ond 29,474 o bobl mewn ardal o faint [[Gorllewin Ewrop]]. Mae'r dwysedd poblogaeth ymhlith yr isaf yn y byd. Mae gan hyd yn oed Greenland, sydd o'r un faint daearyddol, ddwywaith poblogaeth Nunavut.
 
Ystyr Nunavut yn yr iaith [[Inuktitut]], yw 'Ein Tir Ni'. Gelwir y trigiolion yn Nunavummiut (unigol: Nunavummiuq). Ynghyd â'r iaith Inuktitut, mae'r [[Inuinnaqtun]], [[Saesneg]] a [[Ffrangeg]] yn ieithoedd swyddogol.