Valentinian I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 5:
Ganed Valentinian yn Cibalis yn nhalaith [[Pannonia]]. Ymunodd a’r fyddin a daeth yn swyddog yn y gard, gan godi i safle uchel yn ystod teyrnasid [[Julian]] a [[Jovian]] trwy ei ddewrder a’i allu milwrol. Cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan y fyddin wedi marw Jovian. Roedd yn 44 oed pan ddaeth yn ymerawdwr ar [[28 Chwefror]] 364. Yn fuan wedyn penododd ei frawd [[Valens]] fel cyd-ymerawdwr.
Daeth y ddau frawd i gytundeb yn Naissus (Nissa) i rannu’r ymerodraeth rhyngddynt, gyda Valentinian yn
Yn ystod teyrnasiad Valentinian bu rhyfeloedd yn Affrica, ar ffin [[Afon Rhein]] ac ym Mhrydain. Daeth y Rhufeiniaid i wrthdrawiad a phobloedd nad oedd son amdanynt cynt, y [[Bwrgwndiaid]], y [[Sajones]] a’r [[Alamanes]].. Bu hefyd ymgais gan [[Procopius]], perthynas i Julian, i’w sefydlu ei hun fel ymerawdwr, ond llwyddodd Valens i’w orchfygu yn [[366]]. Roedd rhaid i’r ymerawdwr warchod y ffiniau yn barhaus, a bu’n defnyddio [[Milan]] fel canolfan, ac yn ddiweddarach [[Paris]] a [[Rheims]]. Llwyddodd i orchfygu’r llwythi [[Germaniaid|Almaenaidd]] a’u gyrru o ochr orllewinol Afon Rhein. Ymosodasant ar draws y Rhein eto a chipio Moguntiacum ([[Maguntia]]), ond gallodd Valentinian eu gorchfygu yn Solicinium.
|